Biggar i ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Dan Biggar barhau i chwarae i glwb Toulon yn Ffrainc - clwb yr ymunodd ag ef yn Nhachwedd 2022

Mae maswr Cymru, Dan Biggar, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn 2023.

Mae disgwyl i'r chwaraewr 33 oed barhau i chwarae i glwb Toulon yn Ffrainc - clwb yr ymunodd ag ef yn Nhachwedd 2022.

Mae Biggar wedi cynrychioli Cymru 109 o weithiau ers iddo ddechrau chwarae pan yn 19 oed yn erbyn Canada yn 2008 ac mae e'n paratoi ar gyfer ei drydedd bencampwriaeth Cwpan y Byd.

Mae e hefyd wedi bod ar daith y Llewod gan chwarae deirgwaith yn Ne Affrica yn 2021.

Disgrifiad,

Garan Evans: "Roedd Dan Biggar yn cario'r tîm ar adegau"

Fe gyhoeddodd Biggar ei fwriad i ymddeol o rygbi rhyngwladol yn ei golofn papur newydd.

Cafodd ei ddewis yn gapten gan Wayne Pivac ar gyfer pencampwriaeth 2022 a chyfres yr haf yn Ne Affrica - pan enillodd y crysau cochion am y tro cyntaf yn erbyn y Springboks yn Ne Affrica.

Bydd gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn 2023 yn dechrau ar 10 Medi wrth iddyn nhw wynebu Fiji yn Bordeaux.

Mae Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Rhys Webb eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol a hynny cyn Cwpan y Byd.

Pynciau cysylltiedig