Tripledi'n diddanu teithwyr maes awyr yn Ohio
Mae tripledi 11 oed o ardal Tregaron wedi cael cryn sylw ar ôl perfformio fel triawd ar y piano ym maes awyr Columbus, Ohio.
Roedd Charlotte, Jessica ac Emily Smith-Jones newydd fod yng Ngwŷl Cymru Gogledd America, yn Lincoln, Nebraska ac ar eu ffordd adref i Geredigion.
Roedden nhw wedi bod yn canu, chwarae'r iwcalili ac yn chwarae'r piano yna fel triawd hefyd.
Wnaethon nhw hefyd ganu gyda'r tenor Rhys Meirion, gyda'r cyfansoddwr a'r cerddor Robat Arwyn yn cyfeilio iddyn nhw.
Mae 20,000 o bobl wedi gwylio'r fideo o'r tripledi'n chwarae'r piano ar ôl i'r maes awyr rannu'r fideo ar eu cyfryngau cymdeithasol.