Oriel: Delweddau gan ffotograffwyr ifanc Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Aberystwyth dan y lloer, machlud yn Aberteifi a ffermwyr yn torri gwair - dim ond rhai o'r 12 llun sydd wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth i bobl ifanc Ceredigion.
Mae'r ffotograffau nawr i'w gweld mewn arddangosfa a byddant mewn calendr 2024 yn fuan.
Tîm gwaith ieuenctid ac ymgysylltu Cyngor Ceredigion lansiodd y gystadleuaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yn y sir, fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Bydd arddangosfa o'r gwaith i'w weld yng nghanolfan Cwmni Theatr Arad Goch tan 2 Tachwedd.
Hefyd o ddiddordeb: