Oriel luniau: Ras Cefn y Ddraig 2023
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnos ddiwethaf (4-9 Medi) mae rhedwyr o bob cwr wedi dod i Gymru i gymryd rhan mewn ras sy'n cael ei ddisgrifio fel 'ras fynydd anoddaf y byd', Ras Cefn y Ddraig.
Gan redeg 380km ar hyd mynyddoedd a thirwedd heriol mae'r rhai sy'n mentro yn cael mwynhau rhai o olygfeydd mwya' godidog Cymru. Gyda'r haul yn tywynnu arnynt yn ystod y ras eleni, roedd yn anodd i nifer gwblhau gyda ychydig dros draean o'r 298 a gychwynnodd y ras dal i gystadlu erbyn diwedd y trydydd diwrnod. Dim ond 87 o'r rhedwyr oedd dal yn y ras erbyn y diwrnod olaf.
Dilynwch y daith heb fentro o'ch cadair esmwyth gyda chipolwg Cymru Fyw ar yr wythnos.