'O'n i 'di gobeithio cael atebion cyn claddu Josh'

Mae mam dyn ifanc fu farw ar ôl cael ei daro gan gar yn dweud fod y teulu yn byw hunllef wrth aros am ganlyniad ymchwiliad yr heddlu.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn 19 oed wrth gerdded adref o'i waith yng Nghaeathro ger Caernarfon dri mis yn ôl.

Mae ei fam, Melanie Tookey, yn dweud ei bod yn teimlo'n rhwystredig gyda'r diffyg gwybodaeth hyd yn hyn. 

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae'r ymchwiliad i farwolaeth drasig Joshua yn parhau.