'Hunllef' teulu Joshua Roberts wrth aros am ymchwiliad

Disgrifiad,

Mae mam Joshua Lloyd Roberts, fu farw ar ôl cael ei daro gan gar dri mis yn ôl, yn dweud fod aros am ganlyniad ymchwiliad yr heddlu "yn hunllef"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam dyn ifanc fu farw ar ôl cael ei daro gan gar yn dweud fod y teulu yn byw hunllef wrth aros am ganlyniad ymchwiliad yr heddlu.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn 19 oed wrth gerdded adref o'i waith yng Nghaeathro ger Caernarfon dri mis yn ôl.

Mae ei fam yn dweud eu bod yn teimlo’n rhwystredig gyda’r diffyg gwybodaeth hyd yn hyn. 

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae’r ymchwiliad i farwolaeth drasig Joshua Roberts yn parhau.

Clywodd cwest - ar ôl y gwrthdrawiad ar 2 Mehefin - i Joshua farw o anafiadau difrifol. 

Ond cafodd y cwest llawn i'w farwolaeth ei ohirio wrth i ymchwiliad Heddlu'r Gogledd barhau.

Yn ôl mam Josh, Melanie Tookey, mae’r cyfnod o aros i’r ymchwiliad gynnig atebion wedi bod yn "erchyll".

 “'Dan ni ddim yn medru prosesu pethau. 'Dan ni'n dal methu coelio’r peth achos does gennym ni ddim byd i ddweud, 'wel hyn sydd di ddigwydd'.

"'Dan ni just ddim yn gwybod beth ddigwyddodd.

"Mae’n erchyll bod yn y sefyllfa yma.”

'Gobeithio 'swn i 'di cael atebion cyn claddu'

Ychwanegodd Melanie ei bod wedi ei sicrhau gan yr heddlu eu bod yn "gwneud cymaint ag y medran nhw" i ddod i gasgliad yn yr ymchwiliad.

"Ond Josh fi ydi o, dwi eisiau fo cysgu’n dawel ac o’n i’n gobeithio 'swn i’n di cael atebion cyn claddu fo," ychwanegodd.

“Heb i ni wybod atebion da ni just methu mynd ymlaen, mae o’n dal ni 'nôl.

"Mae o’n rhwystro ni rhag galaru. 'Dan ni’n sownd yn yr hunllef yma.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn 19 oed wrth gerdded adref o'i waith

Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, byddai Joshua Lloyd Roberts wedi bod yn paratoi i fynd 'nôl i’r brifddinas ar gyfer ei flwyddyn olaf fis Medi.

Yn ôl ei fam, mae’n gwneud y cyfnod yma’n anoddach eto, ond mae hefyd yn ei hatgoffa hi o’r holl bethau iddo eu cyflawni.

Dywedodd: “Dwi mor falch o Josh, 'swn i ddim ‘di medru gofyn am fab gwell.

"Mae’r brifysgol am roi gradd i Josh oherwydd ei ganlyniadau hyd yn hyn ar y cwrs. Felly fyddwn ni’n mynd flwyddyn nesa' i bigo ei radd o i fyny ar ei ran o."

Ychwanegodd: “'Dan ni’n cofio sut oedd Josh. Roedd o just mor ddoniol, o hyd yn 'neud i ni chwerthin bod dydd ac mae’r atgofion yna’n helpu ni.

"Ond mae’n andros o gyfnod anodd, dani just am iddo fod drosodd i ni gael symud ymlaen.”

'Llawer o dystiolaeth'

Mae un cyn-swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod ymchwiliadau tebyg i’r un i farwolaeth Joshua Roberts yn gallu cymryd amser hir. 

Yn ôl Alun Hughes mae achosion o’r fath yn gymhleth ac mae ‘na sawl ffactor sydd angen eu hystyried. 

Dywedodd: “Fedra’i ddeall rhwystredigaeth pobl.

"Yn fy mhrofiad i yn yr heddlu mae’n digwydd yn aml ond mae'n rhaid i bobl ddeall pan ‘dach chi’n edrych ar unrhyw achos neu ddigwyddiad mawr neu gymhleth mae’r ymchwiliadau yn mynd i gymryd amser.

"Pan feddyliwch chi faint o dystiolaeth neu ffeithiau mae'n rhaid i’r heddlu hel neu fynd ati i hel, bob mathau o feysydd, o lygaid dystion i gamerâu a llawer mwy eto. Dyna sy’n creu’r amser yma ac yn ymestyn yr amser.

“Ar ben hynny mae ffactorau o’r tu allan yn gallu ymestyn yr ymchwiliad.”

Mae dyn 32 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn parhau i ymchwilio i farwolaeth drasig Joshua Roberts ac mae'r teulu'n cael y wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion cyswllt teulu.”

Pynciau cysylltiedig