Estyn: Galw am gydweithio gwell rhwng prifysgolion
Mae angen cryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg o fewn addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn ôl adroddiad newydd gan Estyn.
Mae'r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wedi asesu sut mae partneriaethau AGA yn cynorthwyo athrawon dan hyfforddiant ar hyn o bryd i wella'u gallu yn y Gymraeg.
Yn ôl y casgliadau, er bod cefnogaeth i'r agenda, mae 'na ddiffyg cysondeb ar draws y rhaglenni, ac mae angen cywiro hynny os am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryder am recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Gwawr Meirion, awdur yr adroddiad, ar Dros Frecwast fod diffyg myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg yn gallu cael effaith hefyd ar y rheiny sydd yn dewis astudio yn yr iaith.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi "cymryd camau er mwyn cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith".