Estyn: 'Angen cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg' i athrawon

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Awdur yr adroddiad Gwawr Meirion fu'n trafod rhai o'r canfyddiadau ar Dros Frecwast

Mae angen cryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg o fewn addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn ôl adroddiad newydd gan Estyn.

Mae'r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wedi asesu sut mae partneriaethau AGA yn cynorthwyo athrawon dan hyfforddiant ar hyn o bryd i wella'u gallu yn y Gymraeg.

Yn ôl y casgliadau, er bod cefnogaeth i'r agenda, mae 'na ddiffyg cysondeb ar draws y rhaglenni, ac mae angen cywiro hynny os am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryder am recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi "cymryd camau er mwyn cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith".

Dim 'dealltwriaeth glir'

Dywedodd yr adroddiad: "Er bod partneriaethau'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr wella'u medrau Cymraeg personol, nid yw rhaglenni'n cysylltu'r holl agweddau ar ddysgu myfyrwyr gyda'i gilydd yn ddigon da.

"Er enghraifft, ychydig o bartneriaethau yn unig sy'n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu'r hyn y maent wedi'i ddysgu mewn sesiynau Cymraeg â sesiynau yn benodol i bwnc neu sector."

Dywedodd Owen Evans, prif arolygydd Estyn, bod angen sicrhau fod dysgwyr yn cael y cyfle gorau i ddatblygu a defnyddio'u medrau Cymraeg.

"Er bod Addysg Gymraeg: papur gwyn yn gosod cyfeiriad teithio cadarnhaol, credwn fod gan addysg gychwynnol athrawon rôl allweddol i'w chwarae i gryfhau darpariaeth Gymraeg nawr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth yr astudiaeth hefyd i'r casgliad nad oedd gan ysgolion ddealltwriaeth glir a chyson o ddisgwyliadau'r partneriaethau o ran y Gymraeg.

Nododd yr adroddiad: "Mae hyn yn awgrymu bod amrywiaeth mewn arfer a chymorth rhwng ac o fewn ysgolion partneriaeth, gwahanol sectorau, yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

"O ganlyniad, nid yw myfyrwyr yn cymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn ddigon da mewn sesiynau prifysgol wrth addysgu mewn ysgolion, neu'n profi disgwyliadau anghyson."

Heriau recriwtio

Pryder arall sy'n codi yn yr adroddiad yw heriau recriwtio.

Yn ôl y casgliadau, er bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bartneriaethau weithio tuag at recriwtio 30% o'r holl fyfyrwyr fel rhai cyfrwng Cymraeg, dros gyfnod, mae'r gyfran hon wedi aros fwy neu lai'r un fath, sef tua 20%.

Yr hyn sy'n fwyaf pryderus, medd Estyn, yw'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y sector uwchradd, lle disgynnodd y gyfran o 19% yn 2020-21 i 16% yn 2021-2022.

Dywedodd Gwawr Meirion, awdur yr adroddiad, ar Dros Frecwast fod diffyg myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg yn gallu cael effaith hefyd ar y rheiny sydd yn dewis astudio yn yr iaith.

"Os ydi rhywun yn dewis astudio pwnc, a dim ond dau neu dri sy'n gwneud y pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r cyfleoedd hynny i gyd-drafod ynglyn ag addysg wrth iddyn nhw fynychu'r brifysgol yn llai," meddai.

"Un o'r pethau 'da ni wedi'i nodi ydi y byddai'n fanteisiol bod mwy o gydweithio er mwyn sicrhau bod cysylltiadau'n cael eu gwneud rhwng y myfyrwyr yma mewn pynciau, fel bod mwy o gyfloedd iddyn nhw gael trafod syniadau a chyd-drafod addysg."

'Datrys rhai o'r heriau recriwtio'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "cymryd camau er mwyn cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith, gan gynnwys £5,000 o gymhelliant i'r rheiny sy'n astudio i ddod yn athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg, a bwrsari gwerth £5,000 i gadw athrawon a chynnal y gweithlu".

"Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi £800,000 eleni er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd gwreiddiol i ddatrys rhai o'u heriau recriwtio."

Pynciau cysylltiedig