Swyddi dur Port Talbot: Beth yw barn trigolion y dref?

Bydd gweithfeydd dur Port Talbot yn cael hyd at £500m gan Lywodraeth y DU i ddiogelu'r safle a chynhyrchu dur yn wyrddach.

Bydd Tata yn ychwanegu £700m ei hun wrth fuddsoddi mewn torri allyriadau. Maen nhw wedi gofyn i weinidogion ddarparu cyfran fwy o'r gost.

Ond mae yna ofnau bod y pecyn yn debygol o olygu colli tua 3,000 o swyddi ym Mhort Talbot ac ar draws y DU.

Mewn sawl ffordd, tref Port Talbot yw'r gwaith dur, a'r gwaith dur yw'r dref - mae'r ddau yn dod law yn llaw.

Owain Evans fu'n holi pobl Port Talbot am eu hymateb nhw i'r cyhoeddiad ar ran rhaglen Newyddion S4C.