Pryder am 3,000 o swyddi dur ym Mhort Talbot a'r DU

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Swyddi dur Port Talbot: Beth yw barn trigolion y dref?

Bydd gweithfeydd dur Port Talbot yn cael hyd at £500m gan Lywodraeth y DU i ddiogelu'r safle a chynhyrchu dur yn wyrddach.

Bydd Tata yn ychwanegu £700m ei hun wrth fuddsoddi mewn torri allyriadau. Maen nhw wedi gofyn i weinidogion ddarparu cyfran fwy o'r gost.

Ond mae yna ofnau bod y pecyn yn debygol o olygu colli tua 3,000 o swyddi ym Mhort Talbot ac ar draws y DU.

Dywedodd Tata Steel fod y cytundeb gyda'r llywodraeth yn un arwyddocaol i'r diwydiant dur ac y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gydag undebau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda Tata ers blynyddoedd lawer i ddiogelu dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru ac wedi annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r buddsoddiad sydd ei angen i gefnogi'r symudiad i ddulliau gwyrddach o gynhyrchu dur.

"Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i'r gymuned gyfan ac mae'n hanfodol bod Tata nawr yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda gweithwyr a'u hundebau llafur ynglŷn â'r cynigion hyn.

"Er bod y cyhoeddiad heddiw yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ar gyfer y tymor hirach, mae'n anochel bod gweithwyr Tata, a'u teuluoedd, yn canolbwyntio ar yr effaith a gaiff ar swyddi ym Mhort Talbot a chyfleusterau eraill Tata.

"Mae angen i ni nawr ystyried y cyhoeddiad a'r amserlen arfaethedig yn fanwl.

"Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r undebau llafur a'r cwmni ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau colledion swyddi."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Port Talbot yw lleoliad gweithfeydd dur mwyaf Tata ym Mhrydain

Dywedodd Cadeirydd Grwp Tata, N Chandrasekaran fod y cytundeb gyda Llywodraeth y DU yn foment arwyddocaol i'r diwydiant dur.

"Bydd y buddsoddiad sydd wedi ei gynnig yn arbed swyddi ac yn gyfle i ddatblygu ecosystem ddiwydiannol sydd wedi ei seilio ar dechnoleg werdd yn ne Cymru.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen i gydweithio gyda'n rhanddeiliaid ar y cynigion hyn mewn modd cyfrifol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai hyd at 3,000 ar draws y DU golli eu swyddi yn sgil y cynllun newydd

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr Tata Steel, T V Narendran fod Tata Steel UK wedi bod yn "wynebu heriau sylweddol oherwydd y cyfleusterau sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes".

"Mae'r prosiect sydd wedi ei gynnig, gydag un o'r buddsoddiadau mwyaf yn niwydiant dur y DU yn y degawdau diwethaf, yn rhoi cyfle i sicrhau'r canlyniad gorau posib i'r holl randdeiliaid.

"Byddwn yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda'r undebau ar y llwybr pontio sydd wedi ei gynnig yng nghyd-destun risgiau a chyfleoedd y dyfodol i Tata Steel UK."

Ychwanegodd y byddan nhw'n gweithio i drawsnewid y busnes yn un "gwyrdd, modern sy'n barod ar gyfer y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un sy'n byw yn y dref ac sy'n gwirfoddoli mewn banc bwyd lleol yw Margaret Jones.

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd y byddai colli swyddi yn cael effaith andwyol a bod pobl y dref "yn grac".

"Y'n ni'n diodde'n ddychrynllyd ar hyn o bryd," meddai. "Ma'r banc bwyd yn ffaelu ymdopi gyda be' sy'n digwydd nawr, ac y'n ni'n siarad am golli miloedd o swyddi.

"Ble mae'r paratoi, dyna be' dwi mo'yn gwybod - pam dyw'r bobl yma heb gael eu hail hyfforddi yn gynharach?

"Mae pobl Port Talbot yn grac am be' sy'n digwydd."

'Ni all ddod ar draul gweithwyr'

Dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr CBI Cymru: "Mae'r cyhoeddiad bod Llywodraeth y DU a chwmni dur Tata yn ymrwymo dros £1bn i waith dur Port Talbot gan ddiogelu nifer o swyddi a dyfodol y safle i'w groesawu heb os.

"Mae'n dyngedfennol bod y rhai sydd yn llunio polisïau a busnesau lleol nawr yn camu mewn er mwyn darparu cefnogaeth a rhoi cynlluniau mewn lle i gynorthwyo gweithwyr Tata allai wynebu gael eu diswyddo, er mwyn iddynt gael dychwelyd i'r byd gwaith yn gyflym."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr tu allan i safle Tata ym Mhort Talbot ddydd Gwener

Mewn datganiad dywedodd yr AS Ceidwadol, Paul Davies: "Heb fuddsoddiad Llywodraeth y DU, byddai mwy o risg i swyddi a chynhyrchiant dur mewn ardal sy'n ddibynnol ar y diwydiant.

Ychwanegodd Tom Giffard AS a Dr Altaf Hussain AS: "Mae'n drueni bod yna bosibilrwydd o golli swyddi ar safle Tata. Ond rydym yn hyderus fod Llywodraeth y DU yn gwneud popeth y gall i sicrhau dyfodol y diwydiant a chynhyrchiant dur ym Mhort Talbot."

Dywedodd Luke Fletcher, AS Plaid Cymru, na ddylai camau i dorri allyriadau ddod ar draul gweithwyr.

"Rydym yn edrych ar yr her fwyaf sy'n mynd i wynebu'r diwydiant dur am genhedlaeth o ran yr angen i ddatgarboneiddio," dywedodd.

"Yn hytrach na chael gwared ar weithwyr dur medrus, dylai Tata - cwmni sydd â refeniw byd-eang o fwy na £100bn - gydweithio'n fwy â Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhaglenni ailhyfforddi ac ailsgilio er mwyn galluogi'r gweithwyr hyn i drosglwyddo i wneud dur carbon-niwtral."

Dadansoddiad ein gohebydd Busnes BBC Cymru, Huw Thomas

Ym Mhort Talbot, mae dur wastad wedi ei gynhyrchu yn y ffordd draddodiadol, sef troi craig yn lafa.

Ond mae'r broses o droi haearn yn hylif ac yna'n ddur yn defnyddio llawer iawn o ynni.

Mae hefyd yn cynhyrchu llawer o garbon, gan olygu mai'r gweithfeydd ym Mhort Talbot yw'r safle unigol sy'n creu'r mwyaf o lygredd yng Nghymru.

Gydag ymrwymiadau i gyrraedd sero net, mae'n rhaid i'r modd traddodiadol o gynhyrchu dur newid.

Un o'r opsiynau ar gyfer datgarboneiddio yw dull arc drydanol.

Mae ffwrneisi arc drydanol yn ddibynnol ar fetal sgrap fel ffynhonnell, gan ei doddi yn hylif a'i droi'n ddur newydd.

Mae pobl sydd o blaid arcau trydanol yn dweud eu bod yn creu ffyrdd mwy glân o gynhyrchu dur. Mae llawer o fetal sgrap ar gael yn y DU hefyd.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud na all y dull hwn gynhyrchu'r un graddau o ddur ag y gall safle ffwrnais chwyth.

Mae dull dal a storio carbon hefyd wedi ei grybwyll.

'Ergyd i'r economi leol'

Dywedodd yr economegydd Dr Robert Bowen y gallai'r gymuned ym Mhort Talbot wynebu "ergyd fawr" o golli swyddi.

"Natur y gwaith yw'r peth sydd yn peri gofid i lot o bobl, oherwydd dyma swyddi medrus iawn.

"Mae 'na lot o swyddi, fel caffis cyfagos, swyddi yn y gadwyn gyflenwi hefyd mewn perygl os fydd y swyddi yma yn cael eu colli."

Disgrifiad,

Tata: 'Bydd colli swyddi yn ergyd fawr i'r gymuned leol'

Wrth ymateb yn gynharach i'r sïon am bryderon ynghylch y safle dywedodd fod amodau'n "weddol anodd" ar hyn o bryd.

"Mae cystadleuaeth byd eang o ran dur wedi cynyddu... mae'r gystadleuaeth yma wedi bod yn creu problemau i Port Talbot a gweithfeydd dur ar draws Prydain, ond y costau cynyddol hefyd.

"Ond hefyd wrth gwrs y ffordd ry'n ni'n edrych i ddatgarboneiddio.

"'Dan ni'n ymwybodol bod gweithfeydd fel Tata wedi bod yn gwneud pethau arloesol i drio edrych ar ffyrdd i ddatgarboneiddio ond wrth gwrs mae angen mwy o gymorth ariannol."