Noel Thomas: Iawndal o £600,000 'ddim yn ddigon'
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y cyn-bostfeistri gafodd eu cyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug, yn cael cynnig iawndal o £600,000 yr un.
Mae Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn yn eu plith.
Wedi ei ddedfrydu i naw mis o garchar, ac yn dilyn brwydr barodd dros 16 mlynedd, fe gafodd yr euogfarnau yn erbyn Mr Thomas eu dileu gan y Llys Apêl ddwy flynedd yn ôl.
Ond dywedodd Mr Thomas na fyddai'r arian yn digolledu'r rhai a gafodd eu herlyn.
"Dydy'r arian ddim yn talu am yr hyn yr ydych wedi mynd drwyddo, cyn belled a dwi yn y cwestiwn," meddai.
"Ar ôl gweithio 42 mlynedd i Swyddfa'r Post collais bopeth yn 2005 pan gerddodd y Swyddog Post i mewn a dweud fy mod wedi dwyn yr arian.
"Ar ôl hynny mae wedi bod yn un frwydr fawr ac roedd pawb rydw i wedi siarad â nhw, yn defnyddio'r un polisi, yn eich galw yn lleidr o'r diwrnod cyntaf ac yn rhoi dim cyfle i chi.
"Maen nhw wedi cymryd miliynau o bunnoedd mewn eiddo gan bobl."