Beth yw buddion canoli addysg ôl-16?

Gallai pob un chweched dosbarth sy'n weddill yng Ngheredigion gau o dan gynlluniau posib i ddiwygio addysg ôl-16 y sir.

Ar hyn o bryd, mae gan chwech o ysgolion uwchradd Ceredigion chweched dosbarth.

Dywedodd Elizabeth Evans, cynghorydd sir ac aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu, bod "rhaid" cyflwyno newidiadau.

Un opsiwn ydy agor canolfan ganolog ar un neu fwy o safleoedd daearyddol addas.

Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor yng Ngwynedd, Aled Jones-Griffiths, fu'n egluro manteision y drefn honno ar Dros Frecwast.