Ystyried cau pob chweched dosbarth yn sir Ceredigion

Disgrifiad,

Iestyn ap Dafydd a'r Cynghorydd Elizabeth Evans fu'n rhoi eu barn nhw am y newidiadau arfaethedig

  • Cyhoeddwyd

Gallai pob un chweched dosbarth sy’n weddill yng Ngheredigion gau o dan gynlluniau posib i ddiwygio addysg ôl-16 y sir.

Ar hyn o bryd, mae gan chwech o ysgolion uwchradd Ceredigion chweched dosbarth.

Dywedodd Elizabeth Evans, cynghorydd sir ac aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu, bod "rhaid" cyflwyno newidiadau.

Ar 11 Ionawr 2022, fe gytunodd aelodau cabinet Ceredigion y byddai’n amserol cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16, neu chweched dosbarth, ar draws y sir.

Penderfynwyd yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ar 28 Medi, y dylai astudiaeth ddichonolrwydd gael ei gynnal er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i ddau opsiwn penodol, sef Opsiwn 2 ac Opsiwn 4.

Opsiwn 2: Datblygu’r sefyllfa gyfredol

Byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar y chwe safle presennol.

Fe fyddai Bwrdd Strategol yn cael ei ffurfio i reoli cyllideb ôl-16 yr awdurdod a sicrhau cyd-gynllunio’r cwricwlwm.

Byddai’r bwrdd hefyd yn comisiynu darpariaeth gan yr ysgolion, e-ysgol a phartneriaid eraill.

Opsiwn 4: Un ganolfan

Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol a sefydlu Canolfan Ragoriaeth, yn cynnwys ystod o bartneriaid, ar un neu fwy o safleoedd daearyddol addas.

Byddai corff llywodraethol sy’n annibynnol o’r ysgolion yn gyfrifol am y cyllid a’r cwricwlwm.

Disgrifiad,

Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor yng Ngwynedd, Aled Jones-Griffiths, yn egluro manteision y drefn sydd ganddyn nhw

Chweched dosbarth presennol Ceredigion:

  • Ysgol Gyfun Aberaeron

  • Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan

  • Ysgol Penglais, Aberystwyth

  • Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth

  • Ysgol Bro Teifi, Llandysul

  • Ysgol Uwchradd Aberteifi

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bro Pedr, Penweddig a Bro Teifi ymysg yr ysgolion a allai golli eu chweched dosbarth dan y cynlluniau

Yn ôl Cyngor Ceredigion, "mae’n glir" nad yw’r grant ôl-16 gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i gynnal darpariaeth ôl-16 ar ei ffurf bresennol yng Ngheredigion.

Amcangyfrifwyd fod y gost o gynnal cyrsiau chweched dosbarth yn 2023-24 yn £4.2m - dros £400,000 yn fwy na’r grant chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi fod cyfartaledd y disgyblion sydd ar gyrsiau ôl-16 yn llai na 12 mewn pump allan o'r chwe ysgol, ac yn llai na chwe disgybl mewn pedair allan o’r chwe ysgol.

Mae niferoedd dysgwyr blwyddyn 12 o fewn chweched dosbarth ysgolion Ceredigion hefyd wedi gostwng o 535 yn 2014/15 i 390 yn 2020/21.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans bod "rhaid" cyflwyno newidiadau oherwydd diffyg cyllid

Mae cynghorydd sir o Aberaeron, Elizabeth Evans, sy’n aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu, yn dweud nad oes modd parhau â’r sefyllfa bresennol o ran addysg ôl-16 Ceredigion.

"Ro’dd pob un o' ni yn y siambr wedi bod yn aros am y papur hwn achos o’n ni’n gwybod, ni’n ffaelu aros fel ry’n ni ar hyn o bryd," meddai.

"Does dim digon o arian gyda ni. Mae’n rhaid i rywbeth newid…

"Wedi dweud hynny, dwi’n credu fel pwyllgor, ni gyd yn cynrychioli chweched dosbarth ac ysgolion yn ein wardiau ni, ac mae’n rhaid i ni edrych yn fanwl iawn ar y dystiolaeth a gofyn y cwestiynau iawn pan fydd y swyddogion yn dod yn ôl aton ni fel pwyllgor."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iestyn ap Dafydd y byddai colli chweched dosbarth yn ergyd fawr i'r ysgolion

Ond i rieni’r sir, mae opsiynau’r cyngor yn codi pryderon.

Dywedodd Iestyn ap Dafydd o Landysul, sy’n dad i bedwar o blant yn Ysgol Bro Teifi, ei fod yn "ymateb o’r ganrif ddiwetha’".

"Ni’n brin o arian, felly gadewch i ni ganoli popeth. O’n i’n meddwl fod pethau yn dechrau symud tuag at agor pethau nôl mas eto," meddai.

Agorodd Ysgol Bro Teifi, ysgol 3-19 oed ym Medi 2016, gan gostio £25m.

Yn ôl Mr ap Dafydd, mae’r buddsoddiad wedi bod yn un gwerth chweil, gyda’r chweched dosbarth yn arweinwyr ar yr ysgol.

"Mae’r profiad o symud trwy’r blynyddoedd a gweld y bobl uwch eich pennau chi a moyn bod fel nhw, ma' hynny’n rhan annatod o fod mewn ysgol.

"Unwaith chi’n cymryd y blynyddoedd top off yr ysgol yna, chi’n mynd i golli lot dwi’n meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gwestiynau sydd angen eu hateb ynghylch opsiynau’r cyngor, medd Ffion Medi Lewis-Hughes

Yn Nhregaron, mae’r chweched dosbarth eisoes wedi'i symud o safle’r ysgol.

Mae gan Ffion Medi Lewis-Hughes ddau o blant ym mlynyddoedd 4 a 7, ac yn teimlo fod nifer o gwestiynau sydd angen eu hateb ynghylch opsiynau’r cyngor.

"Y cwestiwn cynta’ ma’ fe’n godi fi’n credu yw, ydy e wir yn mynd i arbed arian? Ydy e yn mynd i fod yn un ganolfan? Ma’ Ceredigion yn sir fawr, wledig.

"Yn amlwg, y cwestiwn nesa’ wedyn yw’r drafnidiaeth. Sut mae’r disgyblion yma fod i gyrraedd y lleoliad hyn? Ble mae’r lleoliad yma yn mynd i fod?

"Ydy e’n rhywle sy’n bodoli’n barod, sydd angen cael ei adnewyddu? Mae ‘na lot o gwestiynau yn codi."

Disgrifiad o’r llun,

Pryder Tamsin Davies yw y byddai ethos Cymraeg yn diflannu y tu allan i ysgolion

Mae pryderon hefyd y gallai’r ethos Cymraeg sy’n bodoli mewn chweched dosbarth gael ei golli mewn un ganolfan neu ganolfannau.

Dywedodd Tamsin Davies o ranbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith: "Yn gyffredinol, falle bydden i’n ffafrio y syniad o wella y cydweithio gyda phethau fel e-sgol ar hyn o bryd, jyst oherwydd bod cadw yr ethos cyfrwng Cymraeg yn bwysig o ran cefnogi pobl i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mewn canolfan ganolog, falle fydde hynny yn cael ei golli."

Nid oedd arweinydd Cyngor Ceredigion, y prif weithredwr na'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg ar gael i drafod yr opsiynau gyda BBC Cymru.

Mewn datganiad, dywedon nhw fod yr adroddiad a’r adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion ar agenda y cyfarfod cabinet ar 7 Tachwedd, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Addysg a Theulu

Mae cynlluniau i gau’r chweched mewn ysgolion wedi bod yn ddadleuol mewn rhannau eraill o Gymru yn y gorffennol.

Yn 2015, fe brotestiodd cannoedd o bobl yn erbyn ad-drefnu’r ddarpariaeth yn Sir Benfro.

Dydy Blaenau Gwent a Merthyr Tudful ddim wedi cael chweched dosbarth yn eu hysgolion ers degawd a cholegau addysg bellach sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r addysg ôl-16 mewn rhai ardaloedd gan gynnwys rhannau o Wynedd

Roedd yna 198 o ysgolion yng Nghymru gyda chweched dosbarth yn Ionawr 2013, a 167 yn Ionawr 2023.

Mae dadleuon ariannol pwerus o blaid canoli adnoddau a darparu mwy o ddewis mewn llai o ganolfannau.

Ond mae ‘na achos cryf ar yr ochr arall hefyd - diogelu cymeriad ysgol, yr effaith bosib ar recriwtio athrawon, ac mewn ardaloedd fel Ceredigion, dadleuon ynglŷn ag amser teithio i ddisgyblion a’r effaith ar yr iaith.

Mae profiadau rhannau eraill o Gymru yn dangos pa mor heriol ac weithiau poenus yw penderfynu ar y ffordd ymlaen.