Dadlau ar-lein yn gwastraffu amser athrawon - pennaeth
Mae un pennaeth ysgol gynradd yn y gogledd-ddwyrain wedi dweud fod plant yn bod yn "gas gyda'i gilydd" ar-lein yn parhau o fewn giatiau'r ysgol a bod hynny'n "gwastraffu amser" athrawon.
Daw ei sylwadau ar ôl i arolwg o blant ysgolion cynradd yng Nghymru ddangos bod plant mor ifanc â saith oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd.
Roedd ymatebion gan fwy na 32,000 o blant saith i 11 oed yn awgrymu bod bron i hanner (46%) wedi cael eu bwlio yn yr ysgol yn ystod y misoedd diwethaf.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Osian Jones, pennaeth Ysgol Plas Coch yn Wrecsam, fod staff yn gorfod "gwastraffu amser" yn delio gyda "dadlau" ymysg plant sy'n codi ar-lein "lle allen nhw, wrth gwrs, fod yn addysgu".
Fel rhiant ei hun, meddai, mae'n cydnabod fod pwysau ar blant gan blant eraill a phwysau gan blant ar eu rhieni i ddefnyddio ffonau.
Ond ychwanegodd "yn y diwedd, mae'r cyfrifoldeb ar y rhieni... ac mae'n rhaid i rieni gymryd cyfrifoldeb am be mae eu plant nhw'n 'neud ar eu ffons".