Plant 7 oed ar apiau fel TikTok ac Instagram yn rheolaidd - arolwg
- Cyhoeddwyd
Mae plant mor ifanc â saith oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, yn ôl arolwg o blant ysgolion cynradd yng Nghymru.
Roedd ymatebion gan fwy na 32,000 o blant saith i 11 oed yn awgrymu bod bron i hanner (48%) yn defnyddio'r gwefannau neu apiau sawl gwaith yr wythnos, neu bob dydd.
Dywedodd mwyafrif y disgyblion fod ganddyn nhw ffôn clyfar, gan gynnwys 43% o blant blwyddyn 3 - sy'n saith ac wyth oed.
Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd mae rhai o'r canlyniadau'n destun pryder.
Cymrodd blant mewn 354 o ysgolion cynradd ledled Cymru ran yn yr arolwg dienw rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023.
Mae Arolwg o Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgol Gynradd yn cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd 65% o ddisgyblion blwyddyn 6 - plant 10 ac 11 oed - eu bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, o'i gymharu ag ychydig llai na thraean (31%) o ddisgyblion blwyddyn 3.
Mae rheolau'r rhan fwyaf o gyfryngau cymdeithasol gan gynnwys TikTok, Instagram a Facebook yn dweud bod angen bod yn 13 oed i'w defnyddio.
Dywedodd Dr Kelly Morgan, sy'n rhan o'r tîm ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ei bod wedi ei synnu gan y canlyniadau.
"Mae'n destun pryder bod ffigyrau mor uchel ar gyfer defnydd rheolaidd o gyfryngau cymdeithasol," meddai, gan ychwanegu bod angen ymchwilio'n ddyfnach i'r canlyniadau.
Dywedodd 63% o'r plant bod ganddyn nhw ffôn clyfar.
Gallai cyfran y plant ieuengaf oedd yn berchen ffôn adlewyrchu fod "technoleg yn chwarae rhan fwy sylweddol ym mywydau pobl ifanc" ers Covid, meddai Dr Morgan.
Mae rhieni Branwen, 11, wrthi'n ystyried a fydd hi'n cael ffôn ai peidio.
"Byddwn i'n gallu chwarae gemau a siarad efo fy ffrindiau a bod yn fwy annibynnol," meddai.
Ond mae hi'n ymwybodol o'r risgiau.
"Rydw i'n gwybod gall pobl ddim fod yn neis ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni'n siarad amdano fe eitha' lot yn yr ysgol.
"Rydw i dal eisiau ffôn ond dwi'n gwybod i beidio mynd ar rai gwefannau."
Mae Caleb, sydd hefyd ym mlwyddyn 6, wedi cael hen ffôn ei fam.
Mae'n defnyddio'i ffôn i "chwarae gemau, tecstio pobl fel fy mam a fy dad. Googlo, YouTube, a darllen pethau ar-lein fel comics neu manga".
Y peryglon, meddai, yw "weithiau dwyt ti ddim yn gwybod os mae'r wefan yn saff a weithiau os mae e yn appropriate".
Dydy canlyniadau'r arolwg ddim yn synnu pennaeth Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd.
Yn ôl Meilir Tomos, mae llawer o amser staff yn cael ei dreulio yn delio gyda phroblemau sydd wedi codi ar-lein.
"'Da ni'n cydweithio'n agos gyda rhieni i wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhoi'r negeseuon cywir i'r plant am sut i ddefnyddio'r pethau 'ma'n ddiogel," meddai.
Mae yna weithdai wedi bod i rieni ac i blant, a'r heddwas lleol wedi dod i siarad gyda'r disgyblion am rai o'r peryglon.
Yng Nghaernarfon, roedd gan rieni bryderon.
"Ma' 'na lot o abuse yn cael ei wneud ar y social media platforms 'ma a dwi'n meddwl dylia y bobl sy'n 'neud o fod mwy aware o'r bwlio sy'n mynd ymlaen," meddai Allan Oliver.
"Mae bob dim maen nhw'n downloadio yn dod trwy e-mails fi a'i fam o so 'da ni'n gwybod bob dim maen nhw'n downloadio."
Does gan blant Christine Barker-Jones ddim ffonau eto.
"Dydy 'mhlant i sy'n wyth a chwech ddim wedi cael ffôn eto a fyddan nhw ddim tan eu bod nhw'n 11," eglura.
"Dwi ddim yn credu eu bod nhw'n ddigon hen, yn ddigon aeddfed yn yr oed yma i fod efo cyfrifoldeb o ffôn.
"Yn fam i genod hefyd, efo delweddau sydd ar y sgrin efo filters a bo' nhw ddim yn siŵr iawn beth ydy realiti a beth sydd ddim yn wir o gwbl, ac ella bo' nhw'n edrych ar eu hunain yn wahanol.
"Mae hynna'n bryder i fi o ran yr ochr hunan-ddelwedd."
Ymhlith canlyniadau eraill yr arolwg, dywedodd bron i hanner (46%) eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol yn ystod y misoedd diwethaf - roedd 28% o ddisgyblion blwyddyn 6 wedi cael eu seibrfwlio.
Dywedodd un o bob pump (20%) o'r plant saith i 11 oed eu bod yn mynd i'r gwely am 22:00 neu'n hwyrach.
Roedd yna ymateb positif i gwestiynau am eu perthynas gydag athrawon, a dywedodd naw o bob 10 bod eu hathrawon yn gofalu amdanyn nhw.
Dywedodd Emily van de Venter o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod canlyniadau'r arolwg yn amlygu pwysigrwydd Bil Diogelwch Ar-lein San Steffan, sy'n ceisio amddiffyn plant rhag deunydd sy'n gyfreithlon ond yn niweidiol.
"Er i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol osod cyfyngiadau oedran, nid yw'r rhain yn cael eu gorfodi na'u rheoleiddio'n dda," meddai.
Dywedodd ei bod yn bwysig i rieni, gofalwyr ac athrawon fod yn ymwybodol o'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol ymhlith plant iau a "siarad â nhw am niwed posibl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2018