Archentwr yn ymarfer ei Gymraeg ym Marseille
Er mai siom oedd hi i Gymru ym Marseille nos Sadwrn, roedd o leiaf un siaradwr Cymraeg yn dathlu buddugoliaeth Ariannin.
Mae Rodrigo Liffourrenna yn dod o ardal Trevelin ym Mhatagonia, ac er nad yw ei deulu o dras Gymreig, fe aeth i ysgol gynradd Gymraeg yn y Wladfa.
Roedd yn awyddus i ymarfer rhywfaint o'i Gymraeg ar ôl y gêm, gan sgwrsio gyda chefnogwyr o Gymru a gyda'n gohebydd y tu allan i'r stadiwm.