Crysau rygbi'r Cofis yn ysbrydoli dros y byd
Chwe blynedd yn ôl fe wnaeth Clwb Rygbi Caernarfon roi crysau i dîm cymunedol yn un o wledydd tlotaf y byd.
Yn gynharach yr wythnos hon roedd yn destun balchder mawr i swyddogion yn nhre'r Cofis, o edrych ar dudalen Facebook clwb y Jaguars ym Malawi, dolen allanol, bod eu chwaraewyr yn dal i'w gwisgo hyd heddiw - a'u bod â thîm merched hefyd erbyn hyn.
"Mae'n nhw'n edrych yn dda yn y lluniau!" dywedodd cyfarwyddwr rygbi Clwb Rygbi Caernarfon, Ieuan Jones.
Ac wrth iddo egluro'r cefndir mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, fe ddaeth yn amlwg bod hi'n bosib y gwelwch chi grysau o Gaernarfon mewn rhannau eraill o'r byd hefyd.