Y Jaguars a chrysau'r Cofis

  • Cyhoeddwyd
Jaguars

Roedd hi'n ddiwrnod cyffredin yng Nghaernarfon. Roedd Dave Evans, cyn reolwr y tîm rygbi lleol wedi mynd allan am dro pan welodd ei hen gyfaill Paul Whelan a'i gi.

Ar un adeg roedd Paul yn bêl-droediwr o fri i Fangor, ac yn un o'r bobl brin sydd wedi sgorio gôl yn Wembley... ond stori arall yw honno!

Gofynnodd Dave iddo beth oedd enw'r ci. "Shane Williams..." atebodd Paul.

Pam bod dyn y bêl gron wedi enwi ei gi ar ôl un o arwyr rygbi Cymru?

Eglurodd Paul mai ei fab Jamie ddewisodd yr enw gan ei fod wedi gwirioni ar rygbi.

Dywedodd bod Jamie bellach yn dysgu mewn ysgol gynradd yn Malawi, un o wledydd tlotaf Affrica, ond roedd yn gwneud defnydd da o'i ddiddordeb mewn rygbi trwy geisio dysgu'r plant lleol sut i chwarae'r gêm.

Roedd y fenter yn llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn gyda phlant a ieuenctid yr ardal, ond roedd yna ddiffyg offer difrifol.

Gofynnodd Dave i Paul a fyddai Clwb Rygbi Caernarfon yn gallu helpu mewn unrhyw ffordd.

A dyna pam erbyn hyn bod tîm y Jaguars yn gwisgo lifrai Clwb Rygbi Caernarfon. Wedi chwiliota daeth Dave ac aelodau eraill y clwb o hyd i'r dillad sbâr ac fe wnaethon nhw drefniadau i'w hanfon i Affrica.

Mae'r lluniau yma yn brawf o falchder y Jaguars yn eu crysau newydd. Newydd iddyn nhw efallai, ond mae'r crysau yn ddeg oed ac mi roedden nhw'n grysau lwcus i'r Cofis. Fe wnaeth y tîm ennill y cynghrair am y tro cyntaf yn gwisgo'r crysau yma.

Fydd y lwc wedi teithio gyda'r crysau yr holl ffordd i Malawi tybed?