'Mae angen lot mwy o help ar rieni i blant byddar'

"Mae angen codi ymwybyddiaeth o fyddardod - yn y gymdeithas, mewn ysgolion, yn y gweithle ac mewn ysbytai".

Dyna farn Kirsty Hopkins, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau teuluoedd ar ôl i'w merch Ffion-Haf gael ei geni'n fyddar.

Cafodd Ffion-Haf, 14, o Gaerdydd fewnblaniad cochlea yn ddwy oed.

Ar ôl genedigaeth Ffion-Haf, dywedodd arbenigwyr clyw wrth ei theulu am beidio defnyddio iaith arwyddo na siarad Cymraeg - dim ond Saesneg.

"Ond oedd rhywbeth ynddo fi, ryw gut instinct, bo' fi angen cyfathrebu gyda hi, a'r unig ffordd oedd drwy iaith arwyddo," meddai Ms Hopkins.

Ers hynny, mae Ms Hopkins yn dweud ei bod wedi talu miloedd o bunnau ar wersi arwyddo (BSL) er mwyn cyfathrebu gyda'i merch.

Mae hi hefyd yn gweithio fel athrawes arbenigol gyda phlant byddar ac yn codi ymwybyddiaeth gyda'i chyfrif addysgol ar-lein Hands2Hear.

Mae deiseb bellach wedi ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn galw am gyflwyno gwersi BSL am ddim i rieni plant byddar yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gweithio gyda phartneriaid sy'n cefnogi pobl fyddar, ac wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabl i adnabod yr heriau mae'r gymuned yn eu hwynebu.