Galw am wersi iaith arwyddo am ddim yng Nghymru

Ffion-Haf a'i mam Kristy Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kristy Hopkins wedi talu miloedd o bunnau am wersi iaith arwyddo er mwyn cyfathrebu gyda'i merch

  • Cyhoeddwyd

“Mae angen codi ymwybyddiaeth o fyddardod - yn y gymdeithas, mewn ysgolion, yn y gweithle ac mewn ysbytai.

"Mae'n rhaid gwella dealltwriaeth o'r hidden disability 'ma.”

Dyna farn Kristy Hopkins, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau teuluoedd ar ôl i’w merch Ffion-Haf gael ei geni’n fyddar.

Cafodd Ffion-Haf, 14, o Gaerdydd fewnblaniad cochlea yn ddwy oed.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ffion-Haf yn yr ysbyty wedi'r llawdriniaeth

Ar ôl genedigaeth Ffion-Haf, dywedodd arbenigwyr clyw wrth ei theulu am beidio defnyddio iaith arwyddo na siarad Cymraeg - dim ond Saesneg.

“Ond oedd rhywbeth ynddo fi, ryw gut instinct, bo’ fi angen cyfathrebu gyda hi, a'r unig ffordd oedd drwy iaith arwyddo,” meddai Ms Hopkins.

Ers hynny, mae Ms Hopkins yn dweud ei bod wedi talu miloedd o bunnau ar wersi arwyddo (BSL) er mwyn cyfathrebu gyda'i merch.

Mae deiseb bellach wedi ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn galw am gyflwyno gwersi BSL am ddim i rieni plant byddar yng Nghymru.

Mae’r ddeiseb wedi denu dros 2,000 o lofnodion.

Disgrifiad,

Kristy Hopkins: "Sai'n gweld pam dyle ni orfod talu i gael cyfathrebu gyda'n plant ni"

Yn ôl adroddiad gafodd ei lunio yn 2022, mae dros 2,329 o blant byddar yng Nghymru, a 90% ohonyn nhw yn cael eu geni i rieni sy'n gallu clywed.

Mae heriau cyfathrebu yn gallu effeithio ar ddatblygiad cynnar plant yn ogystal â chyfrannu at broblemau iechyd meddwl.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n gweithio gyda phartneriaid sy’n cefnogi pobl fyddar, ac wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabl i adnabod yr heriau mae’r gymuned yn eu hwynebu.

Mae Ms Hopkins bellach yn gweithio fel athrawes arbenigol gyda phlant byddar ac yn codi ymwybyddiaeth gyda’i chyfrif addysgol ar-lein Hands2Hear.

“Mae angen lot lot mwy o help ar rieni i blant byddar i wneud yn siŵr bod cyfle iddyn nhw allu dysgu iaith arwyddo gyda'u plant nhw, fel nad ydyn nhw'n colli allan ar iaith,” meddai.

“'On i jest yn teimlo bod angen rhywbeth er mwyn helpu gydag ymwybyddiaeth o fyddardod ac i helpu pobl i ddeall sut i gyfathrebu gyda phobl fyddar.

“Doedd dim dewis gyda ni - a does dim dewis gyda’r rhieni sy’n cael plant sydd wedi eu geni’n fyddar. Mae’n hollol warthus”.

'Plant byddar wedi colli mas'

Ychwanegodd Ms Hopkins: “'O'n i’n gorfod dysgu arwyddo, fel bod rhywbeth gyda fi er mwyn gallu cyfathrebu gyda hi, oedd hwnna’n hollbwysig i mi.

“Ni’n ffodus bo’ ni’n gallu dysgu iaith arwyddo - dyw lot o ffrindiau sydd â phlant byddar methu fforddio'r cyrsiau yma, felly maen nhw wedi colli mas ac mae’r plant byddar yna wedi colli mas hefyd.

“Mae’n achosi massive language deprivation i’r plentyn – erbyn iddyn nhw ddechrau ysgol, mae iaith nhw lot llai na’u cyfoedion, sy’n rili trist.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Kristy Hopkins, roedd y gwersi arwyddo yn "ofnadwy o ddrud"

Mae Ms Hopkins yn credu ei bod wedi talu £2,000 hyd yn hyn ar wersi BSL a hynny er mwyn cyrraedd lefel pedwar - ac mae hi'n dal i ddysgu.

“'O'n i ddim yn gwneud o fel hobi - 'o'n i’n dysgu achos o'n i’n gorfod er mwyn cyfathrebu gyda’m mhlentyn i.”

Pan ddechreuodd Ms Hopkins ddysgu’r iaith dros 10 mlynedd yn ôl, roedd cwrs un wythnos dwys lefel un yn costio dros £500 a hynny mewn cyfnod “rili anodd” i’r teulu.

“Mae’n ofnadwy o ddrud - o'n i ddim yn disgwyl gorfod talu i gyfathrebu gyda’n ferch fach i.”

'Dychmygwch methu gallu cyfathrebu â'ch plentyn'

Mae Dr Rhian Meara o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhan o brosiect i ddatblygu adnoddau dysgu iaith arwyddo ar gyfer disgyblion.

Dywedodd bod diffyg gwybodaeth a chefnogaeth i rieni o’r cychwyn cyntaf.

“Fel arfer, does dim cefndir byddar gyda teuluoedd neu unrhyw ymwybyddiaeth o fyddardod, felly dydyn nhw ddim yn gwybod lle i fynd i ofyn am help.

“Mae’r bobl sydd yn arbenigo mewn datblygu clyw yn edrych i drwsio clyw yn hytrach na rhoi gobaith a helpu’r bobl sydd methu clywed yn y lle cyntaf.

“Dychmygwch os ydych chi ‘di cael plentyn ond yn methu siarad gyda nhw, a methu cyfathrebu gyda beth maen nhw moyn, beth maen nhw angen.

"Mae’n rhoi barriers mawr ar y gobaith i riant a phlentyn ddod i 'nabod ei gilydd ac i gyfathrebu mewn ffordd lwyddiannus ac i helpu nhw ddatblygu,” meddai Dr Meara.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gallu i gyfathrebu â rhiant yn cael effaith mawr ar ddatblygiad plentyn, yn ôl Dr Rhian Meara

Er mai Cymru ydi'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno iaith arwyddo BSL fel rhan o'r cwricwlwm ysgol, mae Dr Meara yn gobeithio gweld y llywodraeth yn mynd gam ymhellach, a chynnig gwersi BSL am ddim i bawb.

“Yng Nghymru, mae opsiwn i gael gwersi Cymraeg am ddim, mae hyn yn rhan o batrwm byw ni. Mae disgwyl i bobl ddysgu Cymraeg, ond dyw’r un tegwch ddim yn cael ei roi i blant byddar,” meddai.

“Os ydych chi’n cymryd y cyfle neu’r sgil 'na i gyfathrebu rhwng rhiant a phlentyn i ffwrdd, mae’n effeithio ar sut maen nhw’n datblygu, sut maen nhw’n mynd i fod mewn addysg, sut maen nhw’ mynd i greu perthnasau gyda phobl eraill.

"Mae hefyd yn gallu effeithio ar bethau fel diogelwch. Sut maen nhw'n gallu cyfathrebu os mae rhywbeth drwg wedi digwydd a'u bod nhw angen cefnogaeth neu help? Mae’n effeithio popeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ddarpariaeth BSL i oedolion yn seiliedig ar y galw ar draws y wlad.

"Mae yna weinidogion sy’n gyfrifol am bolisïau addysg yng Nghymru ac yn darparu cyllid i ddarparwyr i’w weithredu.

"Mae colegau addysg bellach, yn gyrff annibynnol, ac yn penderfynu beth yw cynnwys eu cwricwlwm, a sut maen nhw'n cyflwyno'r ddarpariaeth i’w cymunedau."

Pynciau cysylltiedig