Canolfan drochi iaith: Y plant 'wir yn mwynhau'
Mae canolfannau trochi yn cael eu sefydlu ymhob sir fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn Sir Caerffili mae'r diweddaraf.
Rhyw hanner dwsin o blant sydd yn y ganolfan yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod.
Mae'n gyfle iddyn nhw gael cyfnod dwys o ddysgu'r iaith cyn dychwelyd at ddosbarthiadau arferol yn eu hysgol Gymraeg leol.
"O'dd un disgybl heb unrhyw Gymraeg o gwbl felly dechreuodd hi yn newydd sbon, ac i fod yn onest hi sydd wedi datblygu fwyaf," meddai'r athrawes sydd yng ngofal y ganolfan, Sarah Edwards.
"Mae hi fel sbwng. Mae hi'n ymarfer yr iaith, mae hi'n cwestiynu os nag yw hi'n deall, ac wedyn yn ailffurfio'r frawddeg i sicrhau bod e'n gywir.
"Mae ganddi hi amrywiaeth o gwestiynau ac ymatebion i gyd-fynd gyda'r themâu ry'n ni wedi bod yn dysgu."