Balchder wrth agor canolfan drochi ddiweddaraf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cip ar ganolfan drochi newydd Sir Caerffili

Mae'r ganolfan ddiweddaraf i gefnogi plant sy'n dod at y Gymraeg yn hwyrach, yn agor yn swyddogol yr wythnos hon.

Mae canolfannau trochi yn cael eu sefydlu ymhob sir fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn Sir Caerffili mae'r ddiweddaraf.

Rhyw hanner dwsin o blant sydd yn y ganolfan yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod.

Mae'n gyfle iddyn nhw gael cyfnod dwys o ddysgu'r iaith cyn dychwelyd at ddosbarthiadau arferol yn eu hysgol Gymraeg leol.

Mae 'na le i blant o unrhyw un o ysgolion Cymraeg Sir Caerffili.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen ail-ddenu plant lleol i addysg Gymraeg wedi'r pandemig, medd Jamie Hallett

"Ry'n ni 'di colli fel Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod a Bro Sannan dipyn o blant yn ystod y pandemig achos o'dd rhieni yn poeni am yr iaith Gymraeg," meddai pennaeth gweithredol y ddwy ysgol, Jamie Hallett.

"Ry'n ni'n ardal eitha' di-Gymraeg fan hyn, felly o'dd ishe cyfle i'r disgyblion i gael eu trochi yn yr iaith, i ddod nôl i'r system fel bod y system yn ffynnu unwaith eto.

"Hefyd mae'n gyfle arbennig o dda i deuluoedd sydd yn symud mewn i'r ardal ac sydd eisiau addysg Gymraeg 'fyd."

'Fel sbwng'

Mae'r agoriad swyddogol ddiwedd yr wythnos, ond mae rhyw hanner dwsin o blant wedi bod yn y ganolfan ers dechrau'r tymor ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Sarah Edwards yw'r athrawes sydd yng ngofal y ganolfan

"O'dd un disgybl heb unrhyw Gymraeg o gwbl felly dechreuodd hi yn newydd sbon, ac i fod yn onest hi sydd wedi datblygu fwyaf," meddai'r athrawes sydd yng ngofal y ganolfan, Sarah Edwards.

"Mae hi fel sbwng. Mae hi'n ymarfer yr iaith, mae hi'n cwestiynu os nag yw hi'n deall, ac wedyn yn ailffurfio'r frawddeg i sicrhau bod e'n gywir.

"Mae ganddi hi amrywiaeth o gwestiynau ac ymatebion i gyd-fynd gyda'r themâu ry'n ni wedi bod yn dysgu."

Mae canolfannau trochi wedi bodoli yn rhannau o Gymru ers degawdau, a bwriad Llywodraeth Cymru yw eu gweld nhw ym mhob sir.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'n wych gweld y Ganolfan Drochi newydd yn agor yng Nghaerffili.

"Mae addysg drochi yn allweddol i'n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Rydym yn buddsoddi £6.6m mewn darpariaeth trochi hwyr tan ddiwedd tymor y Senedd hon, sydd wedi galluogi awdurdodau lleol gyflwyno darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru."

Yn Sir Caerffili, mae'r pennaeth gweithredol Jamie Hallett eisiau gweld eu canolfan nhw yn ehangu.

"Mae capasiti gyda ni ar gyfer 12 o blant rhwng Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6, ond fi'n credu taw'r targed hir dymor yw cael rhywbeth tebyg yn y sector uwchradd 'fyd.

"Unwaith ni wedi sefydlu fan hyn bydd e'n hyfryd i weld bod rhywbeth tebyg yn y sector uwchradd 'fyd.

"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifri' am gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae hwn yn ffordd arbennig o dda o hyrwyddo hynny.

"Felly tyfu'r peth sydd eisiau gwneud nawr - mae wedi sefydlu ond heb os gwneith e wahaniaeth mawr."

Yn y cyfamser, mae Sarah Edwards wrth ei bodd gyda'r cynnydd sydd wedi bod yn sgiliau ieithyddol y plant sydd yn y ganolfan ar hyn o bryd

"Dwi'n dwlu arno fe," dywedodd.

"Pryd ti'n gweld maen nhw' just yn fflicio'r switsh ymlaen a maen nhw'n deall - mae'r hyder 'na a maen nhw'n gallu ymateb gydag atebion estynedig.

"Ti'n gallu gweld bo' nhw'n just dal eu hunain yn wahanol.

"Maen nhw'n sefyll yn browd. Maen nhw wir yn mwynhau."

Pynciau cysylltiedig