Pobl Y Bala yn ymateb i araith y Brenin

"Mi oedd o'n swnio'n ardderchog, ond mi fydd hi'n anodd iawn cadw at bob dim y mae o wedi'i ddeud".

Dyna ymateb un o aelodau clwb cinio am ddim newydd yng Nghanolfan Bro Tegid yn Y Bala, i araith y Brenin Charles ddydd Mawrth.

Mae Araith y Brenin yn rhoi cyfle i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dynnu sylw at ei blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.

Dyma oedd araith gyntaf y Brenin Charles ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth, er iddo ei thraddodi ar ei rhan y llynedd.

Mae modd darllen mwy am yr araith yma.