Araith y Brenin: Galw am gryfhau hawliau dioddefwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd sydd â phrofiad o gamdriniaeth ddomestig a gwrth-stelcian wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio araith y Brenin i gryfhau hawliau dioddefwyr.
Yn 2020 cafodd cyn-bartner Rhianon Bragg, Gareth Wyn Jones, ei garcharu ar ôl defnyddio gwn er mwyn ei dal hi'n wystl yn ei chartref yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Ms Bragg ei bod yn annog y llywodraeth i roi mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr.
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder bwriad mesur y llywodraeth sy'n ymwneud â dioddefwyr a charcharorion yw ceisio "rhoi lleisiau dioddefwyr wrth galon y system gyfiawnder".
Cafodd y Mesur Dioddefwyr a Charcharorion ei gyflwyno i'r Senedd yn San Steffan ym mis Mawrth ond ni chafodd ei basio cyn i'r sesiwn ddod i ben.
Mi fydd y mesur yn cael ei ailgyflwyno fel bod cyfle i'r mesur droi yn gyfraith.
Mae Araith y Brenin yn rhoi cyfle i'r llywodraeth dynnu sylw at ei blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae Rhianon Bragg yn croesawu unrhyw fesurau a fydd yn gwella cymorth i ddioddefwyr, ond mae hi'n annog y llywodraeth i fynd ymhellach.
Mae hi'n galw ar y llywodraeth i amddiffyn dioddefwyr a "rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ddioddefwyr".
Ym mis Awst fe ymddiheurodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i Ms Bragg am benderfynu peidio cyhuddo Mr Jones o aflonyddu, er ei bod hi eisoes wedi cysylltu â'r heddlu gyda'i phryderon am ei ymddygiad.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol ar y pryd am hawl y dioddefwyr i gwestiynu'r penderfyniad," meddai.
"Dim ond y gwanwyn diwethaf y cefais wybod am yr hawl yma.
"Canlyniad y penderfyniad yna oedd ei fod wedi gallu parhau gyda'r stelcian a'r cam-drin am bum mis arall, cyn iddo wedyn fy nal i a bygwth fy lladd."
Dywedodd Ms Bragg bod y system cyfiawnder yn "ddryslyd."
"Mae disgwyl i chi fel dioddefwr sydd wedi profi trawma i ymdopi â sefyllfaoedd, iaith a phrosesau sy'n gwbl ddieithr i chi."
Cafodd "amser erchyll ac ofnadwy" ei "waethygu gan y system gyfiawnder" meddai.
Yn ôl Ms Bragg mae angen mesurau ychwanegol i gryfhau'r gefnogaeth i ddioddefwyr.
Dywedodd hefyd bod rhaid sicrhau "cyllid cynaliadwy" ar gyfer gwasanaethau sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr.
Dedfrydau 'sy'n adlewyrchu'r troseddau'
Mae Ms Bragg hefyd eisiau gweld newidiadau i ddedfrydau sy'n ymwneud â cham-drin domestig a stelcian.
"Rwy'n sylweddoli bod gennym wasgfa ar leoedd carchar ar hyn o bryd ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen edrych arno, oherwydd i lawer o ddioddefwyr yr unig dro maen nhw'n wirioneddol ddiogel yw pan nad yw'r troseddwr yno'n gorfforol."
Mewn gormod o achosion dyw'r "dedfryd ddim yn adlewyrchu'r troseddau sydd wedi eu cyflawni, a'r effaith ar fywydau'r dioddefwyr a'u teuluoedd", meddai.
Mae achos Ms Bragg wedi ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin gan AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.
Mae'r blaid yn galw am greu comisiynydd dioddefwyr i Gymru - syniad y mae Ms Bragg yn ei gefnogi.
"Mae gan ardaloedd gwahanol eu problemau eu hunain," meddai, gan dynnu sylw at faint poblogaeth wledig Cymru.
"Mae byw mewn ardal wledig yn dod â heriau ychwanegol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae ein Mesur Dioddefwyr a Charcharorion wedi cael ei gario drosodd i sesiwn nesaf y Senedd.
"Mi fydd yn gosod sylfeini'r Cod Dioddefwyr ar sail statudol ac yn rhoi lleisiau dioddefwyr wrth wraidd y system gyfiawnder, gan wella eu profiad ar bob cam."
Yn ôl y Weinyddiaeth, mae'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth dioddefwyr a thystion a bod y nifer o gynghorwyr annibynnol i roi cymorth wedi cynyddu.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymateb i achos Ms Bragg gan ddweud:
"Roedd y penderfyniad ym mis Mai 2019 i beidio cyhuddo Gareth Wyn Jones o aflonyddu yn anghywir ac rydym wedi ymddiheuro i'r dioddefwr am y gofid dwys y mae hyn wedi'i achosi.
"Yn ddiweddarach fe wnaethon ni gyhuddo Jones o stelcio, o feddiant arf gyda'r bwriad o beryglu bywyd, carcharu ffug, a gwneud bygythiad i ladd, a phlediodd yn euog.
"Fe wnaethom ni gynnwys tystiolaeth o'r achosion o aflonyddu fel rhan o'n hachos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021