Tractor heb yrrwr - AI hyn yw'r dyfodol?
Gyda deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwyfwy amlwg mewn sawl agwedd o'n bywydau bob dydd, mae ymchwil yn cael ei wneud i sut y gallai'r sector amaeth fanteisio ar y dechnoleg.
Mae myfyrwyr amaeth Coleg Glynllifon ger Caernarfon ymhlith y cyntaf i gael arbrofi efo tractor AI.
AgBot ydy enw'r tractor - sy'n gallu gyrru ei hun - a bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ba mor ddefnyddiol ydy'r cerbyd ar dir glas ac ucheldir Cymru.
Dywedodd Esmor Hughes, darlithydd yn y coleg, nad ydy'r dechnoleg "fyth am allu gwneud pob tasg ar y fferm, ond fe allai helpu gwneud bywyd ffermwyr yn haws".
Darllenwch y stori yn llawn yma.