Tractors AI yn gyfle i 'wneud bywyd ffermwyr yn haws'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil yn cael ei wneud i weld sut y gallai'r sector amaeth fanteisio ar dechnoleg AI.
Gyda deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwyfwy amlwg mewn sawl agwedd o'n bywydau bob dydd, mae myfyrwyr amaeth Coleg Glynllifon ger Caernarfon ymhlith y cyntaf i gael arbrofi efo tractor AI.
AgBot ydy enw'r tractor - sy'n gallu gyrru ei hun - a bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ba mor ddefnyddiol ydy'r cerbyd ar dir glas ac ucheldir Cymru.
Dywedodd Esmor Hughes, darlithydd yn y coleg, nad ydy'r dechnoleg "fyth am allu gwneud pob tasg ar y fferm, ond fe allai helpu gwneud bywyd ffermwyr yn haws".
Cafodd yr AgBot ei ddatblygu yn yr Iseldiroedd, ac mae'n un o'r tractors AI cyntaf i fod ar gael i'w brynu yn y Deyrnas Unedig.
Er ei fod dipyn drytach na thractors eraill ar y farchnad - yn costio £380,000 - mae'n ysgafnach, sy'n golygu ei fod yn effeithio llai ar y tir.
Mae modd rheoli'r tractor gyda theclyn llaw, neu drwy ddefnyddio ap ar y ffôn.
Esbonia Esmor Hughes bod y tractor yn gallu gyrru ei hun unwaith y mae wedi derbyn y wybodaeth am y cae.
"'Da ni'n gorfod marcio cae allan yn defnyddio GPS - felly marcio pedwar pwynt, unrhywbeth sydd yn y cae, boed yn goeden neu bolyn 'lectrig... mae'r wybodaeth yma'n cael ei fwydo mewn i'r tractor ac yna mae o'n cario 'mlaen efo'i waith," meddai.
"Mae 'na bob math o sensors ar y tractor sy'n ei alluogi i stopio'n stond os oes rhywbeth annisgwyl o'i flaen, neu i fynd o amgylch rhywbeth y mae'n ymwybodol ohono."
Ychwanegodd bod tractors tebyg wedi cael eu treialu ar gaeau mawr yn Lloegr a ffermydd yn y diwydiant llysiau a ffrwythau, ond mai dyma'r tro cyntaf iddo gael ei dreialu ar dir glas.
"Fe allai ddod â phob math o fanteision, o gostau llai i well diogelwch ar ffermydd."
Mae rhai o ddisgyblion amaeth Coleg Glynllifon wedi cael cyfle i ddysgu am y tractor newydd, ac roedd Megan Jones, Teleri Griffiths ac Eira Thomas ymhlith y cyntaf i'w brofi.
Roedd Megan yn sicr yn gweld manteision posib: "Dwi'n gweld tractor fel 'ma yn ddefnyddiol iawn, achos efo tymor y gaeaf yn dod mi fase fo'n ddefnyddiol i fynd ar y caeau... dydi o ddim yn fflagio llawer ac mae'n stopio cywasgiad ac ati efo llefydd gwlyb."
"Mae'n beiriant da iawn fy marn i, a siwr fydd o'n fuddiol i lawer o ffermwyr yn y dyfodol wrth drin a thrafod y tir... bydd llawer o gostau llafur hefyd yn cael eu torri," meddai Teleri.
Ychwanegodd Eira: "Dwi'n meddwl bydd hi'n reit handi i bobl brysur ar ffermydd mawr efo lot o waith i'w wneud... ma' hon yn gallu gwneud 24 awr trwy'r dydd ac mae'n ysgafn… ddim yn effeithio cywasgiad ar y tir a ballu."
Dywedodd Wyn Davies, sy'n ymgynghorydd amaeth yng Ngholeg Glynllifon, ei bod hi'n bwysig treialu'r fath yma o dechnoleg.
"Dwi'n meddwl y bydd yn gallu torri costau llafur... ac o safbwynt y pridd, mae rhywbeth fel hyn yn gwneud llai o compression - mae'n gallu gweithio mewn gwahanol dywydd ac mewn gwahanol amgylchiadau fel ar dir mynyddog Cymru," meddai.
"Hefyd, mae gymaint o ffermwyr yn cael eu lladd bob blwyddyn mewn gwahanol ffyrdd... felly mae'r teclyn yma yn gallu gweithio ar ben ei hun a does dim angen i rywun fod ar y tractor."
Ychwanegodd y gallai'r dechnoleg fod yn dda o safbwynt amgylcheddol hefyd, gan ei fod yn cywasgu llai ar y tir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023