'Marc cwestiwn dros lywodraethu S4C yn y dyfodol'
Mae yna "farc cwestiwn mawr" dros lywodraethu S4C yn y dyfodol, yn ôl cyn-brif weithredwr y sianel.
Roedd Arwel Ellis Owen yn ymateb i'r newyddion bod Awdurdod S4C wedi diswyddo Siân Doyle fel prif weithredwr.
Ym mis Mai eleni, daeth i'r amlwg fod cwmni cyfreithiol Capital Law yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.
Bydd adroddiad a chanfyddiadau'r ymchwiliad annibynnol yn cael eu cyhoeddi "maes o law".
Yn y cyfamser, mae Ms Doyle wedi cyhoeddi datganiad sy'n hynod feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo.
Dywedodd Mr Ellis Owen fod y cyhoeddiad yn "drasiedi personol" ond hefyd "yn farc cwestiwn mawr dros weinyddiad, a hefyd llywodraethu'r sianel yma yn y dyfodol".