Siân Doyle wedi ei diswyddo fel prif weithredwr S4C

  • Cyhoeddwyd
Siân DoyleFfynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle ei henwi fel prif weithredwr newydd S4C ym mis Tachwedd 2021

Mae Awdurdod S4C wedi diswyddo Siân Doyle fel prif weithredwr y sianel.

Ym mis Mai eleni, daeth i'r amlwg fod cwmni cyfreithiol annibynnol yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.

Dywedodd datganiad gan yr Awdurdod - sy'n gweithredu fel bwrdd y sianel - fod "natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr".

"Er mwyn i ni ddechrau gwneud gwelliannau mae angen i ni wneud rhai newidiadau ar unwaith," meddai'r datganiad ddydd Gwener.

Ychwanegodd fod aelodau wedi dod i'r "penderfyniad anodd ond unfrydol i derfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr".

Ymddiheurodd yr Awdurdod "am y straen a'r gofid a achosir gan yr ymddygiadau a brofwyd yn y gweithle", gan ddiolch i'r 96 o bobl a roddodd dystiolaeth.

Yn y cyfamser, mae Ms Doyle wedi cyhoeddi datganiad sy'n gwneud honiadau difrifol ac sy'n hynod feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo.

Pwy yw Siân Doyle?

Dechreuodd Ms Doyle yn ei rôl fel prif weithredwr y sianel ym mis Ionawr 2022.

Cyn hynny roedd yn rheolwr gyfarwyddwr gyda chwmnïau telegyfathrebu TalkTalk a EE, a chyn hynny fe dreuliodd gyfnod fel uwch is-lywydd gyda chwmni Comcast Cable yn yr Unol Daleithiau.

Wrth gamu i'r swydd, dywedodd Ms Doyle ei bod yn "edrych ymlaen at arwain S4C wrth i'r sianel ymateb i'r newidiadau yn y tirwedd cyfryngau".

Roedd Ms Doyle yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy cyn symud ymlaen i astudio hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd adroddiad blynyddol S4C am 2022-23 yn nodi fod Ms Doyle yn derbyn cyflog blynyddol o £162,000.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C fis diwethaf

Hyd yn oed ers cyhoeddi bod ymchwiliad ar y gweill yn gynharach eleni, mae hi wedi bod yn fisoedd heriol i S4C.

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel Prif Swyddog Cynnwys S4C fis diwethaf wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn dilyn hynny, roedd aelodau staff S4C wedi derbyn e-bost gan yr adran adnoddau dynol yn nodi fod y prif weithredwr, Ms Doyle, i ffwrdd o'i gwaith oherwydd salwch.

Yn y cyfamser, fe darodd Ms Griffin-Williams yn ôl yr wythnos hon, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.

Datganiad Awdurdod S4C yn llawn

"Mae aelodau Awdurdod S4C wedi ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd fel rhan o'r ymarfer canfod ffeithiau a gynhaliwyd gan Capital Law i amgylchedd gwaith S4C.

"Dechreuwyd yr ymarfer yn dilyn pryderon difrifol a godwyd gyda ni gan BECTU ym mis Ebrill 2023.

"Mae'r dystiolaeth a welsom yn adlewyrchu barn a phrofiadau 96 o bobl sy'n staff presennol neu gyn-aelodau o staff S4C neu'n bartneriaid y mae'r sefydliad yn gweithio gyda nhw.

"Hoffem ddiolch i'r rhai a oedd yn teimlo y gallent ddod ymlaen am fod yn agored a pharod i rannu eu profiadau.

"Roedd natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr. Yn ddi-os, mae wedi bod yn gyfnod heriol i lawer o unigolion.

"Fel Aelodau o'r Awdurdod, hoffem ymddiheuro am y straen a'r gofid a achosir gan yr ymddygiadau a brofwyd yn y gweithle.

"Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a dderbyniwyd bod angen cymryd camau i sicrhau newid o fewn S4C ac mae yna lawer i'w wneud i ddelio gyda'r holl faterion sy'n codi o'r wybodaeth a dderbyniwyd.

"Mae Awdurdod S4C yn ymrwymiedig i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein staff yn hapus ac yn ddiogel - lle mae nhw'n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu.

"Rydym yn cydnabod bod angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth yn y sefydliad - nid yn unig ymhlith ein staff ond gyda'n partneriaid yn y sector creadigol, cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

"Er mwyn i ni ddechrau gwneud gwelliannau mae angen i ni wneud rhai newidiadau ar unwaith.

"Felly, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol manwl, gwnaeth aelodau Awdurdod S4C y penderfyniad anodd ond unfrydol i derfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr.

"Byddwn yn gweithio tuag at benodi arweinydd newydd a all helpu i adfer S4C uchelgeisiol gyda ffocws o'r newydd ar gydweithio a llesiant ein cydweithwyr.

"Nid yw'r rhain byth yn benderfyniadau hawdd i'w gwneud. Fodd bynnag, rydym ni, fel Aelodau Awdurdod S4C, yn hyderus mai dyma'r penderfyniad cywir i'r sefydliad.

"Mae hwn yn fater sensitif, a rhaid inni ddilyn proses briodol.

"Fel Awdurdod S4C mae angen inni gydbwyso'n ofalus ein rhwymedigaethau mewn perthynas â thryloywder â llesiant pawb sy'n gysylltiedig â'r mater yma, a byddai'n amhriodol ychwanegu unrhyw beth at y datganiad hwn ar hyn o bryd am y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw.

"Maes o law, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n egluro ymhellach natur y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod y broses canfod ffeithiau, y penderfyniadau a wnaed a'r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod S4C yn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol a ffyniannus."

Beth ydy'r ymateb?

Dywedodd cyn-Weinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones ei bod hi'n "sefyllfa anffodus iawn".

Ychwanegodd fod "gan yr Awdurdod ei hun gyfrifoldeb yn y mater yma".

"Wedi'r cwbl nhw sydd wedi penodi'r bobl yma i'r swyddi a'r cyfrifoldebau sy'n mynd efo'r swyddi yna ac yn amlwg mae rhywbeth mawr wedi mynd o'i le," meddai Mr Jones.

"Mae o wedi gwneud drwg i enw'r sianel be' bynnag sydd wedi digwydd.

"Dydy o ddim yn edrych yn dda pan 'da chi wedi diswyddo dau o brif swyddogion eich sefydliad a hwnnw'n sefydliad sy'n ganolog iawn i fywyd Cymru a'r Gymraeg. Ac felly dwi'n credu bod yn rhaid i'r awdurdod holi eu hunain.

"Bydd yn rhaid i'r Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] yn Llundain edrych yn fanwl ar yr hyn sydd wedi digwydd ac i benderfynu be' ydy'r camau priodol nesa' er mwyn diogelu'r gwasanaeth ei hun a sicrhau ei fod ar dir cadarn ar gyfer y dyfodol.

"Byddwn ni'n disgwyl iddyn nhw gynnal rhyw fath o ymchwiliad."

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am benodi cadeirydd ac aelodau Bwrdd Unedol S4C yn dilyn proses benodi gyhoeddus.

Fel Llywodraeth Cymru, dywedodd adran ddiwylliant Llywodraeth y DU - y DCMS - mai "mater i S4C ydy hyn".

"Er na allwn wneud sylwadau ar achosion unigol, rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag S4C ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys llywodraethu," meddai'r DCMS mewn datganiad.

Disgrifiad,

Cyn-brif weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen: "Mae'n codi cwestiynau am ddyfodol llywodraethiant S4C"

Yn ôl Gwyn Williams, fu'n gyfarwyddwr cyfathrebu a marchnata gyda S4C, mae'n bryd rŵan i'r sianel "ailadeiladu".

"Yr hyn sydd wedi dychryn fi ydy bod 96 o bobl wedi rhoi tystiolaeth, pan 'da chi'n ystyried mai rhyw 110 o staff sydd yn S4C," meddai ar raglen Post Prynhawn.

"Dwi'n ymwybodol iawn bod tua 35 o bobl wedi gadael S4C dros y 18 mis diwetha' 'ma, a ma' hynna yn siom ac yn bechod ofnadwy.

"Dwi'n ymwybodol iawn hefyd bod 'na staff wedi byw drwy gyfnod hunllefus dros y 18 mis diwetha', ac felly mi oedd hi'n dda iawn gweld y bwrdd yn ymddiheuro am hyn.

"Yr hyn sydd angen ei wneud rŵan, ac mae'r bwrdd yn cydnabod hyn yn eu datganiad, ydy ailadeiladu ffydd yn y bwrdd, yn rheolwyr S4C, ymysg y staff ac ymysg y sector hefyd, oherwydd mae'r sector wedi bod yn dioddef yn dawel iawn dros y cyfnod yma."

Ychwanegodd bod "'na yn sicr gwestiynau i'w gofyn ynglŷn â pham na wnaeth y bwrdd weithredu yn gynt".

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw

Pynciau cysylltiedig