'Mae natur anafiadau rygbi merched yn wahanol'

Mae'r corff sy'n llywodraethu rygbi'r undeb ar draws y byd wedi cydnabod bod dim digon o ymchwil yn cael ei wneud i anafiadau a lles chwaraewyr benywaidd.

Mae'r sefyllfa'n destun pryder i arbenigwyr a chwaraewyr, gan fod y rhan helaeth o'r ymchwil hyd yn hyn i anafiadau fel cyfergyd i'r pen wedi canolbwyntio ar gêm y dynion.

Ond mae ymchwil cychwynnol "syfrdanol" yng Nghymru yn awgrymu y gallai merched sy'n chwarae'r gamp fod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef anafiadau o'r fath.

Mae World Rugby nawr yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y byd i gasglu mwy o ddata ar gêm y menywod er mwyn ceisio "cau'r bwlch" yn yr ymchwil.

Dwy sy'n cytuno bod angen edrych yn fanylach i'r ffordd y mae anafiadau'n amrywio yn achos gêm y merched yw Teleri Wyn Davies, cyn-chwaraewr i Gymru a Sale Sharks, ac Elain Sian, cyn-ffisiotherapydd tîm rygbi merched Norwy.