'Bwlch yn yr ymchwil i anafiadau rygbi merched'
Cipolwg
Corff llywodraethu rygbi’r undeb yn cyfaddef fod bwlch yn yr ymchwil o ran anafiadau chwaraewyr benywaidd.
Ymchwil “syfrdanol” yng Nghymru'n awgrymu y gallai merched sy’n chwarae’r gamp fod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef anafiadau pen.
Arbenigwyr a chwaraewyr yn galw am fwy o ymchwil i anafiadau merched i weld a oes angen eu trin a’u hatal mewn ffordd wahanol.
Mae llawer o'r prosesau a'r dulliau hyfforddi ar sail ymchwil ar ddynion, medd y cyn-chwaraewr rhyngwladol Elinor Snowsill.
- Cyhoeddwyd
Mae corff llywodraethu rygbi’r undeb wedi cyfaddef fod bwlch yn yr ymchwil sy’n cael ei wneud pan mae’n dod at les chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd.
Daw hynny wrth i ymchwil “syfrdanol” yng Nghymru awgrymu y gallai merched sy’n chwarae’r gamp fod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef anafiadau pen fel cyfergydion.
Yn ôl arbenigwyr a chwaraewyr, mae angen mwy o ymchwil i anafiadau merched i weld a oes angen eu trin a’u hatal mewn ffordd wahanol.
Mae World Rugby nawr yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y byd i gasglu mwy o ddata ar gêm y menywod er mwyn ceisio “cau’r bwlch” yn yr ymchwil.
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021
Ar hyn o bryd mae World Rugby, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr yn wynebu camau cyfreithiol gan chwaraewyr rygbi, gan gynnwys rhai menywod.
Un cynllun maen nhw wedi ei gyflwyno’n ddiweddar yw gorchuddion ceg yng nghystadleuaeth ddiweddar WXV y menywod, sy’n gallu mesur y risg o gyfergyd.
Daw hyn wrth i rygbi merched dyfu mewn poblogrwydd, gyda chytundebau proffesiynol i chwaraewyr rhyngwladol Cymru a llwyddiant diweddar yn y Chwe Gwlad.
'Mae petha' wedi newid lot'
Mae’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Elinor Snowsill yn dweud mai un cyfergyd gafodd hi yn ystod ei gyrfa, ond bod eraill o’i chyfnod hi ddim wastad o bosib wedi gwybod am anafiadau o’r fath.
“Siŵr o fod bod lot o bobl wedi bwrw pennau nhw ac heb sylweddoli, neu heb wneud unrhyw beth amdano fe,” meddai.
“Felly fi’n meddwl falle bydde rhai o'n nhw’n stryglo gyda symptomau nawr, a falle’n gallu effeithio bywyd nhw nawr.
“I’r chwaraewyr sy’n chwarae nawr mae pethau ‘di newid lot, ac mae ‘na lot mwy o ymwybyddiaeth a gofal dros y peth.”
Mae Snowsill, sydd bellach yn arwain canolfan datblygu chwaraewyr ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn falch bod y brifysgol yn rhan o ymchwil pellach i’r pwnc.
“Mae lot o’r prosesau, y ffyrdd ni’n ymarfer, y ffyrdd ni’n bwyta, wedi cael ei wneud oherwydd ymchwil ar ddynion,” meddai.
“Ond ni ddim yn ddynion, ni’n wahanol iawn i ddynion. Ac mae hwn am chwaraeon yn gyfan gwbl, yn ogystal â phethau fel cyfergyd.”
Natur ergydion yn wahanol
Mae Dr Izzy Moore o Brifysgol Met Caerdydd yn rhan o brosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe.
“Pan ‘dyn ni’n edrych ar fideos o gemau menywod, mae dros 50% o’r ergydion pen yn digwydd wrth i’r chwaraewr ddisgyn,” meddai Dr Moore.
“Ond yng ngêm y dynion mae ganddyn nhw yddfau cryfach, ac maen nhw’n dioddef anafiadau pen gan amlaf drwy ergyd uniongyrchol yn ystod tacl.”
Ar hyn o bryd mae data World Rugby yn awgrymu bod merched yn dioddef anafiadau pen fel arfer drwy ergydion uniongyrchol, sy’n wahanol i ganfyddiadau prosiect Prifysgol Abertawe.
Ychwanegodd Dr Moore fod llawer o ferched yn dechrau chwarae rygbi yn y brifysgol, yn wahanol i fechgyn sydd wedi bod yn chwarae ers oedran ieuengach.
“Felly mae’n bosib eu bod nhw dal yn dysgu sut i daclo, a bod hynny’n cynyddu eu risg o anaf.”
'Yr ymchwil yn ei ddyddiau cynnar'
Sefydliad arall sydd hefyd yn ymchwilio i effaith cyfergydion ac anafiadau eraill ar chwaraewyr rygbi benywaidd yw Prifysgol Bangor.
“Mae’r ymchwil yn sicr yn ei ddyddiau cynnar,” meddai Dr Seren Evans, sy’n ymchwilydd ôl-ddoethurol yno.
“Mae genna ni ddegawdau o ddata ar gêm y dynion, a’r gwahanol anafiadau sy’n digwydd... lle efo’r merched mae o lot llai.
“Beth ydan ni’n dechrau gweld ydi bod mwy o gyfergydion yn digwydd yng ngêm y genod, bod o tua 70% yn uwch yng ngêm y merched rygbi’r undeb o’i gymharu efo gêm y dynion.
“Mae hyn yn syfrdanol bod o mor wahanol, oherwydd mae merched yn fwy tebygol o ddioddef o symptomau am yn hirach hefyd.
“Yr unig ffordd ‘dan ni’n gallu dechrau ar y daith yma ydi adnabod y broblem, a mynd o fanno efo’r preventative measures wedyn.”
Er hynny, mae’n dweud nad ceisio darbwyllo pobl rhag chwarae rygbi yw’r bwriad.
“Weithiau mae pobl yn gallu edrych ar y penawdau a chael eu dychryn, a ‘dyn nhw’m isio i’w plant nhw chwarae rygbi ac ati,” meddai.
“Ond beth ‘dan ni’n trio ‘neud ydi ‘neud y gêm yn saffach, fel bod y genod ‘ma yn gallu chwarae, a chwarae am hirach hefyd.”
Fe wnaeth Jessica Kavanagh gynrychioli Cymru ar y lefel rhyngwladol, cyn i anafiadau ddod â’i gyrfa chwarae i ben.
Mae bellach yn is-hyfforddwr gyda thîm Prifysgol Bangor, ac yn gweld nad yw chwaraewyr ar lawr gwlad yn cael yr un gefnogaeth pan mae’n dod at anafiadau fel cyfergydion.
“Dydi o’m digon da ar y lefel yma yn fy marn i,” meddai.
“Dwi’n fwy ymwybodol ohono fo oherwydd dwi ‘di bod yn chwarae ar y lefel uchel a dwi’n gwybod y support oeddan ni’n cael yn fan'na.
“Felly pan dwi ar yr ochr yn gwylio’r gêm, mae’n chwarae ar meddwl fi - dwi’n trio gwatchad ar ôl y merched a ‘neud y peth iawn. Mae’r person yn dod gynta’ cyn y chwaraewyr.”
'Profion mwy aml'
Mae Beca, Erin a Mali yn chwarae i dîm y brifysgol, ac yn gallu rhestru llwyth o anafiadau maen nhw wedi eu cael tra’n chwarae’r gamp – gan gynnwys cyfergydion.
“Dan ni’n chwarae heb wybod beth sy’n mynd i ddigwydd i ni os ‘dan ni’n brifo,” meddai Erin.
“Os dwi’n hitio pen, dwi’n gwybod na’i deimlo’n sâl, dwi’n gwybod i beidio mynd i gysgu, ond be’ arall, be’ dwi fod i 'neud efo hynna?
“Mynd i ysbyty neith nhw ddeutha chdi ‘neud, ond OK, dwi’n cymryd leaflet a dwi’n mynd adre – beth sy’n digwydd wedyn?”
Ychwanegodd Mali y dylai profion cyfergyd gael eu cynnal yn amlach - er enghraifft, ar ddechrau pob tymor, nid dim ond pan mae anaf amlwg yn digwydd.
“Mae lot o bobl jyst yn meddwl mai cur pen ‘di o, ond pryd ti’n mynd yn ôl rhy fuan ar ôl concussion mae’n gallu mynd yn waeth,” meddai.
Dyw’r anafiadau heb ddarbwyllo Beca rhag chwarae, ond mae’n falch o weld bod mwy o ymchwil nawr yn cael ei wneud i’r effeithiau.
“Gyda chynifer o ferched yn chwarae rygbi erbyn hyn, ma’ fe yn bwysig bod yr ymchwil yma’n cael ei ‘neud er mwyn i ni allu gwybod sut i drin merched yn specific,” dywedodd.
Gwaith i lenwi'r bwlch
Dywedodd Dr Lindsay Starling, Rheolwr Meddygol a Gwyddonol World Rugby, fod llawer o waith bellach yn digwydd i leihau’r bwlch yn yr ymchwil ar gyfer chwaraewyr benywaidd.
“Rydych chi ond yn gallu helpu’r chwaraewyr i’r lefel uchaf drwy gael gwybodaeth amdanyn nhw’n benodol,” meddai.
“Yn amlwg, nid jyst dynion llai yw merched – maen nhw’n bobl wahanol. Rydyn ni’n gweithio mewn ffordd wahanol. Felly mae angen deall y cyd-destun benywaidd yn benodol.”
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn ymdrechu'n "ddygn i wella safonau a chynlluniau lles chwaraewyr ac mae ein staff meddygol profiadol yn chwarae rhan flaengar" yn hynny o beth.
Mae'r undeb, meddai llefarydd, "yn buddsoddi'n sylweddol mewn monitro anafiadau gyda Met Caerdydd, sy'n cynnwys edrych ar holl anafiadau merched yn ogystal â chysylltiadau â chylch y mislif".
Ychwanegodd bod "cynnydd sylweddol wedi bod yn yr ymchwil a'r data rydym wedi gallu eu casglu o ganlyniad".
Am fwy ar y stori hon, gwyliwch BBC1 Wales am 22:40 neu gallwch wylio yn ôl ar BBC iPlayer