Diogelwch merched: 'Mae e'n broblem enfawr'

Mae siarter ddiogelwch newydd wedi ei lansio yng Nghaerdydd gyda'r gobaith o wneud y ddinas yn fwy diogel i fenywod.

Pwrpas yr ymrwymiad, yn ôl Caerdydd AM BYTH - y fenter busnes sy'n gyfrifol am y siarter - ydy hyfforddi busnesau i gydnabod sut mae cynorthwyo pobl mewn perygl.

Yn ôl Jess Davies, un o lysgenhadon y siarter, mae aflonyddu rhywiol yn "broblem enfawr" yn y brifddinas.

"Fi wedi bod yn byw 'ma dros 10 mlynedd nawr, ac wedi profi aflonyddu rhywiol ymhobman... yn y gwaith, yn y stryd, pan fi allan gyda ffrindiau.

"Dwi'n gobeithio bydd y siarter yma yn gallu bod yn ffordd i bawb ddysgu, ac i fusnesau ddechrau cael hyfforddiant i wybod bod 'na ffordd iddyn nhw helpu hefyd."

Mae modd darllen y stori yn llawn yma.