Sut fyddai pobl Pwllheli'n datblygu'r dref a'r harbwr?

Mae pobl ardal Pwllheli'n cael cyfle i glywed mwy am yr hyn y mae Cyngor Gwynedd yn ei ddisgrifio fel "cynlluniau cyffrous" i ailddatblygu ardal harbwr y dref.

Bwriad Cyngor Gwynedd yw i drawsnewid ardaloedd Glandon, Cei'r Gogledd, yr Hen Ynys a'r harbwr mewnol ac allanol.

Nod sesiynau galw heibio, yn Academi Hwylio Genedlaethol Plas Heli nos Fercher a nos Iau, oedd rhoi gwybod am 34 o brosiectau posib, gan ateb cwestiynau'r cyhoedd am y cynlluniau.

Dywed y cyngor eu bod wedi cael "ymateb cadarnhaol iawn i gyfarfodydd ymgynghori ac arolygon ar-lein" yn yr wythnosau diwethaf, sy'n sail i ddrafft cyntaf adroddiad ar gyfer y gwaith uwchraddio.

Mae'n fwriad i gyflwyno adroddiad terfynol i Gyngor Gwynedd "i ddatblygu cynllun strategol hirdymor er budd y gymuned leol".

Daw'r ymgynghoriad diweddaraf yn dynn ar sodlau llwyddiant diweddar menter gymunedol i godi £500,000 i brynu hen westy'r Tŵr yng nghanol y dref a'i ddatblygu er mwyn cynnig tafarn, gwesty, bwyty a gofod cymunedol.

Sion Tootill fu'n clywed am ddyheadau pobl leol o ran beth sydd angen i roi hwb pellach i'r dref.