Menter gymunedol y Tŵr ym Mhwllheli wedi codi £500,000

  • Cyhoeddwyd
Gwesty'r Tŵr
Disgrifiad o’r llun,

Nod y fenter yw ailddatblygu Gwesty'r Tŵr i fod yn dafarn, gwesty, bwyty a gofod cymunedol

Mae menter gymunedol ym Mhwllheli wedi cadarnhau eu bod wedi codi hanner miliwn o bunnau fel rhan o'u hymgyrch i brynu hen westy yng nghanol y dref.

£400,000 oedd targed y fenter er mwyn gallu prynu Gwesty'r Tŵr, ond mewn datganiad daeth cadarnhad bod £500,000 wedi ei godi mewn cyfranddaliadau.

Mae'r gwesty wedi bod ar gau ers dechrau cyfnod Covid, a'r bwriad nawr yw datblygu'r safle a'i ailagor fel tafarn, gwesty, bwyty a gofod cymunedol.

Dywedodd cadeirydd y fenter, Carys Owen, bod llwyddiant y fenter yn "newyddion gwych" i'r dref, a'i fod yn rhywbeth "y dylai pobl Pwllheli fod yn falch iawn ohono".

Cafodd Menter y Tŵr ei sefydlu ym mis Awst y llynedd, ond daeth rhan helaeth y cyfraniadau yn y diwrnodau olaf, yn ôl y fenter.

Fe wnaeth Ms Owen gyfaddef ei bod hi ar un pwynt wedi cwestiynu a fyddai'r ymgyrch yn llwyddo.

'Trobwynt'

"Wrth gwrs, mi o'n i'n gobeithio 'sa ni'n llwyddo, ond pan weles i'r dechreuad araf... mi oedd 'na un pwynt pan o'n i'n meddwl 'o na 'da ni ddim am neud hi'," meddai.

"Y trobwynt dwi'n meddwl oedd pan wnaeth cwmni Carl Kammerling International fuddsoddi £50,000.

"Fe wnaethon ni sôn am hynny ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati, a dwi'n meddwl bod hynny wedi rhoi egni i'r holl beth, a gwneud i bobl feddwl ei bod hi'n bosib i ni lwyddo."

Y bwriad nawr yw defnyddio'r arian ychwanegol i helpu sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel wrth iddyn nhw gynllunio a pharatoi ar gyfer y camau nesaf.

Ychwanegodd Ms Owen y byddai'r fenter yn mynd yn ôl allan i'r gymuned i roi cyfle i bobl roi eu barn ar y cynlluniau, ac i fod yn rhan o'r datblygiad.

Mae'r broses gyfreithiol o brynu'r adeilad ar y gweill a'r gobaith yw bydd y bydd y pryniant yn cael ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig