Pryder dros gynlluniau gwasanaeth tân y gogledd

Fe allai newidiadau arfaethedig i orsafoedd tân yn y gogledd arwain at gynnydd "trychinebus" mewn amseroedd ymateb, yn ôl undeb y diffoddwyr tân.

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystyried newid y ddarpariaeth yng ngorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy i gael eu criwio dros nos o gartref.

Dywed yr Awdurdod fod angen newidiadau er mwyn gwella amseroedd ymateb mewn ardaloedd gwledig.

Ond mae Undeb y Brigadau Tân yn honni y gallai'r newidiadau arfaethedig fod yn ddrwg i ardaloedd gwledig a mwy trefol.

Mynychodd hyd at 50 o bobl rali yng Ngorsaf Dân Y Rhyl ddydd Sadwrn a oedd wedi ei drefnu gan Undeb yr FBU.

Yn ddiweddar cefnodd yr awdurdod tân ar gynllun ad-drefnu a allai fod wedi cau gorsafoedd eraill a thorri swyddi.

Yn hytrach, penderfynon nhw ganolbwyntio ar y newidiadau yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy gyda mwy o gyflenwad mewn gorsafoedd gwledig.

Ond mae'r FBU eisiau i'r awdurdod dderbyn opsiwn arall a fyddai, yn eu barn nhw, yn cadw gwasanaeth llawn amser yn y ddwy orsaf hynny ac yn cynyddu'r gwasanaeth gwledig heb gost ychwanegol.

Mae Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd wedi dweud eu bod wedi edrych yn fanwl ar ba mor debygol ydy lleoliadau o gael ymateb gan orsaf dân o fewn 20 munud.

Yn ôl yr awdurdod bydd dim penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar unrhyw adrefnu tan y byddan nhw'n cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis.

Wedi hynny, bydd unrhyw newid yn cael ei gyflwyno'n raddol.