Awdurdod yn gwrthod cynnig i gau gorsafoedd tân yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân y Gogledd wedi gwrthod cynlluniau i gau pump o orsafoedd ar draws Môn, Gwynedd a Chonwy.
Gyda'r angen i wneud arbedion ariannol, roedd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (ATAGC) wedi ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth.
Yn ôl yr awdurdod roedd hefyd angen i wella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig.
Ymysg y cynigion oedd symud un injan dân o orsaf Wrecsam a chau pum gorsaf ar alwad yn Abersoch, Biwmares, Llanberis, Conwy a Cherrigydrudion.
Er yn gwella'r ddarpariaeth wledig o orsafoedd Corwen, Dolgellau a Phorthmadog, byddai hyn wedi arwain at golli hyd at 36 o ddiffoddwyr llawn amser a 38 o ddiffoddwyr ar alwad.
Roedd 1,776 o bobl wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Ond fore Llun, yn ystod cyfarfod o'r awdurdod, y penderfyniad oedd i ddiystyru opsiynau 2 a 3 - a fyddai wedi arwain at gau gorsafoedd yn eu cyfanrwydd.
Yn hytrach, roedd argymhelliad gan Weithgor Aelodau Adolygu Gwasanaethau Brys y dylai swyddogion barhau i weithio ar ddatblygu opsiwn 1 - sef symud diffoddwyr o orsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy a staffio'r gorsafoedd hynny yn y nos o adref.
Beth oedd y cynigion?
Fe gyhoeddodd ATAGC fis Gorffennaf eu bod am adrefnu'r gwasanaeth er mwyn medru cyrraedd digwyddiadau'n gynt mewn ardaloedd gwledig.
Roedd y tri opsiwn yn cynnig staffio gorsafoedd o'r newydd yn y dydd - yng Nghorwen, Dolgellau a Phorthmadog.
Opsiwn 1
Symud diffoddwyr tân o orsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy a staffio'r gorsafoedd hynny yn y nos o adref.
Opsiwn 2
Gwneud gorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad yn y nos - pobl sy'n gwneud swyddi eraill.
Byddai'r ail opsiwn hefyd yn symud un injan dân o orsaf dinas Wrecsam - syniad oedd yn ddadleuol iawn rai blynyddoedd yn ôl.
Byddai'n golygu arbedion o dros £1m ond yn arwain at gael gwared â 22 o swyddi diffoddwyr llawn amser.
Opsiwn 3
Roedd yr trydydd opsiwn yn cynnwys yr un newid ag opsiwn 2, ond dwy orsaf ychwanegol yn unig fyddai'n cael eu staffio yn y dydd.
Byddai hefyd yn cau pum gorsaf sydd ar hyn o bryd yn ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad - yn Abersoch, Biwmares, Llanberis, Conwy a Cherrigydrudion.
Canlyniad hyn fyddai arbedion ariannol o £2.4m, ond colli 36 o ddiffoddwyr llawn amser a 38 o ddiffoddwyr ar alwad.
Dywedodd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn.
"Cawsom ymateb gwych gan bobl a gwblhaodd yr holiadur yn ogystal â mynychu'r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ar draws gogledd Cymru, er mwyn cofnodi eu barn ar y tri opsiwn a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad.
"Yn y cyfarfod y bore yma, adroddodd aelodau'r awdurdod eu bod yn teimlo bod yr ymgynghoriad wedi bod yn hynod drylwyr a'i fod wedi'i ddadansoddi'n fanwl.
"Cytunodd yr Aelodau, o ganlyniad i'r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y bydd y ffocws wrth symud ymlaen ar ddatblygu Opsiwn 1 sef yr unig opsiwn nad yw'n cynnwys lleihau swyddi diffoddwyr tân."
'Y penderfyniad cywir'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ac AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n falch iawn o glywed y bydd gorsaf dân Biwmares - ac eraill ar draws gogledd Cymru a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad diweddar - yn parhau ar agor.
"Dyma'r penderfyniad cywir i gadw ein cymunedau'n ddiogel - mae'n hanfodol nawr bod modd gwneud y buddsoddiad cywir i annog mwy o bobl i gofrestru fel diffoddwyr tân yn eu cymunedau lleol."
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd cynrychiolwyr seddi Gwynedd yng Nghaerdydd a San Steffan, sef Liz Saville Roberts, Hywel Williams, Siân Gwenllian a Mabon ap Gwynfor: "Dylid sylweddoli bod y rhan fwyaf o orsafoedd tân yn ymateb i alwadau sydd y tu allan i'w hardal leol ac y dibynnir arnynt yn aml i fod yn gefn pan fo gorsafoedd eraill, cyfagos fel arall allan ar alwad.
"Mae hyn yn cynnwys ymateb i ddamweiniau ffordd a chefnogi gwasanaethau golau glas eraill. Byddai cau gorsafoedd Llanberis ac Abersoch wedi tanseilio'r trefniant diogelwch yma.
"Rydym yn diolch i'r Awdurdod Tân am wrando ar alwadau llethol y dylid diogelu'r gorsafoedd hyn, nid yn unig er budd diogelwch y cyhoedd, ond hefyd er mwyn cynnal a chryfhau blynyddoedd o brofiad ymhlith ein criwiau tân lleol, rhywbeth na ellir ei ddisodli'n hawdd."
Dywedodd y Cynghorydd Becca Martin, a sefydlodd ddeiseb i frwydro yn erbyn y cynigion yn ardal Wrecsam: "Roedd pobl wedi dychryn wrth feddwl am golli'r gwasanaeth hanfodol hwn, yn enwedig gan fod gorsaf dân Wrecsam yn derbyn 50% o'r holl alwadau ar draws y gogledd.
"Mae'n teimlo fel buddugoliaeth i'r bobl ac rydw i mor falch dros bawb a ymunodd â'n hymgyrch - boed drwy arwyddo'r ddeiseb, ymuno â'n protest neu gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
"O siarad â diffoddwyr tân ar y rheng flaen, rwy'n gwybod faint o effaith y byddai colli'r swyddi hyn wedi eu cael.
"Mae pryderon hefyd wedi'u mynegi am gost uwch reolwyr o fewn y gwasanaeth tân yn ogystal â'r ganolfan hyfforddi newydd arfaethedig.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr awdurdod tân yn edrych eto ar yr elfennau hyn o ran costau yn hytrach na cheisio torri gwasanaethau rheng flaen yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023