Ffrwydrad Trefforest: 'Fel cael ergyd yn fy nghefn'

Mae un person yn parhau ar goll wedi tân mawr ar stad ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd.

Cafodd tri pherson fân anafiadau a chafodd o leiaf un adeilad ei ddinistrio.

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei gyhoeddi yn dilyn y ffrwydrad tua 19:00 nos Fercher.

Dywedodd pobl yn yr ardal eu bod wedi clywed ffrwydrad anferth.

Cafodd y fideo uchod o'r fflamau yn codi i'r awyr ei recordio gan Johnny Foxhall nos Fercher.

Mae Mr Foxhall yn berchen ar safle lle mae bandiau yn ymarfer sydd yn agos iawn i leoliad y ffrwydrad.

Dywedodd ei fod clywed sŵn y ffrwydrad yn atseinio drwy'r adeilad am tua 19:00 nos Fercher, gan ddweud ei fod yn teimlo fel tasai wedi "cael ergyd yng ngwaelod fy nghefn".

Mae modd dilyn y diweddara' am yr ymchwiliad i achos y fflamau yma.