Dwayne Peel yn ffyddiog y gall drawsnewid tymor y Scarlets

Mae prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel yn ffyddiog y gall drawsnewid tymor ei dîm, gyda'r pwysau arno cyn y gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch yn Llanelli ar ddydd San Steffan.

Fe gollodd y Scarlets 23-7 gartref yn erbyn Black Lion o Georgia y penwythnos diwethaf, ac mae'r tîm o Lanelli bellach wedi colli saith allan o'u naw gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

Mae Peel yn mynnu ei fod yn deall pam bod y cefnogwyr yn anfodlon ar ôl iddyn nhw fynegi pryder yr wythnos hon, gan gynnwys cyhoeddi llythyr damniol a anfonwyd ganddynt at fwrdd y rhanbarth.