Cwpan Her Ewrop: Scarlets 7-23 Black Lion
- Cyhoeddwyd
![Ryan Conbeer o'r Scarlets yn cael ei daclo gan Akaki Tabutsadze](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D97C/production/_132067655_cdf_151223_cf_scarlets_v_black_lion_009.jpg)
Ryan Conbeer o'r Scarlets yn cael ei daclo gan Akaki Tabutsadze
Mae tymor siomedig y Scarlets yn parhau gyda cholled hollol annisgwyl yng Nghwpan Her Ewrop yn erbyn y newydd-ddyfodiaid i'r gystadleuaeth, Black Lion.
Roedd hi'n edrych yn addawol i ddechrau i dîm Dwayne Peel pan diriodd Vaea Fifita, cyn iddyn nhw ildio 23 o bwyntiau i'r tîm o Georgia sy'n cystadlu am y tro cyntaf trwy wahoddiad.
Fe groesodd Miriani Modebadze a Beka Mamrikashvili y llinell naill ochr i'r egwyl i'r ymwelwyr ac fe ychwanegodd ciciau Luka Matkava 13 o'r pwyntiau.
7-23 oedd hi felly yn Llanelli, ac mae'r Scarlets yn parhau ar waelod Grŵp 3 ac eto i sgorio unrhyw bwyntiau.
Mae'r canlyniad yn golygu eu bod nawr wedi colli saith o'u naw gêm ar draws y cystadlaethau ers dechrau'r tymor.