Dyfodol y grefft o greu ffenestri lliw 'dan fygythiad'

Gyda dyfodol y grefft o greu ffenestri lliw o "dan fygythiad", mae un fyfyrwraig yn dweud bod y grefft yn hynod bwysig iddi hi a'i theulu.

Mae Seren Trodden yn fyfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, Abertawe ac yn astudio cynllunio crefft gan gynnwys gwydr lliw.

Ei thad-cu oedd y cerflunydd adnabyddus a'r artist gwydr lliw, Jonah Jones, a symudodd i fyw i Gymru o Sir Durham ar ôl yr Ail Ryfel byd.

Bu farw yn 2004 ac mae ei waith i'w weld mewn sawl adeilad cyhoeddus gan gynnwys Eglwys Dewi Sant yn Yr Wyddgrug.

Dywedodd Seren fod creu gwydr lliw yn "rhan o'n nheulu i. Ro'dd fy nhad-cu Jonah Jones yn 'neud gwydr lliw fel bywoliaeth. Fe wnaeth e pob math o bethe, ond roedd gwydr yn rhan fawr o'i fywyd e."