Dyfodol y grefft o greu ffenestri lliw 'dan fygythiad'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n rhan o'n nheulu i. Ro'dd fy nhad-cu Jonah Jones yn 'neud gwydr lliw fel bywoliaeth. Fe wnaeth e pob math o bethe, ond roedd gwydr yn rhan fawr o'i fywyd e."
Mae Seren Trodden yn fyfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, Abertawe ac yn astudio cynllunio crefft gan gynnwys gwydr lliw.
Ei thad-cu oedd y cerflunydd adnabyddus a'r artist gwydr lliw, Jonah Jones, a symudodd i fyw i Gymru o Sir Durham ar ôl yr Ail Ryfel byd.
Bu farw yn 2004 ac mae ei waith i'w weld mewn sawl adeilad cyhoeddus gan gynnwys Eglwys Dewi Sant yn Yr Wyddgrug.
Fe gafodd ffenestri o'i waith eu symud yno o Eglwys Babyddol Santes Fair ym Morfa Nefyn, a gafodd ei dymchwel yn 2019.
Mae gwaith atgyweirio ac adfer y ffenestri wedi ei wneud yng Nghanolfan Gwydr Pensaernïol, Coleg Celf Abertawe, ble mae ei wyres Seren nawr yn fyfyriwr.
Ei bwriad hi yw dilyn ôl ei draed a chadw'r traddodiad gwydr lliw yn y teulu.
"Dim ond jest dechre fe ni wedi 'neud ond fi wedi bod yn mwynhau e llawer. Ni'n neud pethe gwahanol gyda gwydr.
"Ni wedi bod yn peintio ar wydr; ni wedi bod yn 'neud ffenestri gwydr; ni wedi bod yn blastio fe gyda thywod i greu siapie mas o' fe, a fi wedi bod yn mwynhau pob rhan ohono fe."
Ond mae angen mwy o bobl fel Seren i ddysgu'r grefft gan fod pryder gwirioneddol am ei dyfodol.
Mae'r Gymdeithas Crefftau Treftadaeth wedi rhoi crefft gwneud ac adfer ffenestri lliw traddodiadol ar raddfa fawr ar restr goch y crefftau dan fygythiad.
Oherwydd hyn mae Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a nifer o sefydliadau eraill yn y maes, wedi dod at ei gilydd i lenwi'r bwlch.
Maen nhw wedi datblygu rhaglen Prentisiaeth Crefftberson Gwydr Lliw - lle bydd cyfle i brentisiaid astudio dros dair blynedd, gan ddilyn hyfforddiant mewn ystod gynhwysfawr o dechnegau crefft gwydr lliw.
Dywedodd Gwenllian Beynon, Is-gyfarwyddwr Academaidd a Darlithydd Celf a Dylunio, bod y Brifysgol nawr wedi "creu'r prentisiaethau hyn fel bo' ni'n gweithio o fewn y diwydiant ac o fewn prifysgol".
"Mae'r myfyrwyr neu'r prentisiaethau yn gallu dod mewn fan hyn, gweithio gyda ni yn y brifysgol a gyda'n myfyrwyr ni ac maen nhw'n neud 'wbeth byd real."
Mae gan Abertawe hanes hir o ddatblygu'r grefft o weithio â gwydr lliw, yn ôl Martin Crampin o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth sy'n arbenigwr mewn celfyddyd weledol.
"Mae hanes cryf yn y ddinas am ddysgu gwydr lliw ar ôl bron i 80-90 mlynedd nawr," meddai.
"Fe alle ni sôn am waith Howard Martin a Hubert Thomas yn sefydlu Celtic Studios yn Abertawe yn y 40au. Ac ar ôl hynny roedden nhw'n gneud ffenestri lliw dros Gymru a Lloegr a Chanada hefyd.
"Roedd Howard Martin yn dysgu yn y coleg 'ma ac ar ôl hynny roedd Tim Lewis o Bontarddulais yma yn y 70au, felly mae traddodiad pwysig yma yn enwedig o'r 60au 70au ymlaen am neud gwydr lliw a dysgu gwydr lliw."
Mae Coleg Celf Abertawe yn cael ei gydnabod fel un o ganolfannau rhagoriaeth y Deyrnas Unedig mewn gwydr lliw.
Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif wefreiddiol o baneli, cartwnau a dyluniadau'n rhychwantu 80 mlynedd, sy'n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.
Ychwanegodd Christian Ryan, Swyddog Cyswllt prentisiaeth gwydr lliw yn y Drindod Dewi Sant fod y "rhaglen hon yn gyfle arbennig i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o grefftwyr".
"Rydym yn gobeithio y gellir tynnu gwydr lliw o restr goch y crefftau dan fygythiad yn fuan, ac y bydd y wybodaeth a'r sgiliau arbenigol yn parhau i gael eu trosglwyddo yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022