JPR Williams: Teyrnged i 'gawr' a newidiodd rygbi
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-chwaraewr rygbi ac un o sêr mawr tîm Cymru yn y 1970au, JPR Williams, sydd wedi marw yn 74 oed.
Yn chwaraewr ffyrnig, cystadleuol a di-gyfaddawd, roedd John Williams, neu'n fwy adnabyddus fel JPR, yn ymosodwr greddfol a ddaeth yn symbol o lwyddiant a grym rygbi Cymru yn y 1970au.
Yn ôl cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, a fu'n chwarae i Gymru yn niwedd y 1970au hyd at 1985, roedd JPR yn gawr o ddyn a newidiodd sut mae olwyr yn chwarae rygbi.
Ac wrth gwrs all neb "anghofio y gôl adlam fythgofiadawy o 50 llath yn erbyn Seland Newydd yn 1971", meddai.