Teyrngedau i 'arwr, cawr ac eicon' rygbi Cymru, JPR Williams
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-chwaraewr rygbi ac un o sêr mawr tîm Cymru yn y 1970au, JPR Williams, sydd wedi marw yn 74 oed.
Yn chwaraewr ffyrnig, cystadleuol a di-gyfaddawd, roedd John Williams, neu'n fwy adnabyddus fel JPR, yn ymosodwr greddfol a ddaeth yn symbol o lwyddiant a grym rygbi Cymru yn y 1970au.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu y bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd "wedi'i amgylchynu gan ei wraig a'i bedwar o blant".
Ychwanegodd ei fod wedi dioddef o "salwch byr, yn brwydro'n ddewr yn erbyn llid yr ymennydd bacterol (bacterial meningitis)".
Cafodd ei ddisgrifio fel "un o'n chwaraewyr gorau erioed" gan lywydd Undeb Rygbi Cymru, a dywedodd cyn-gapten Cymru, Jonathan Davies ei fod yn "eithriadol o gystadleuol" ac yn "gymeriad anhygoel".
"Arwr, cawr ac eicon" oedd JPR wnaeth "drawsnewid" y ffordd roedd safle'r cefnwr yn chwarae'r gêm, meddai'r hyfforddwr Gethin Watts.
Ganwyd John Peter Rhys Williams yn 1949 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac fe gafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont i Fechgyn cyn ennill lle dethol yn Ysgol Fonedd Millfield - ble daeth i gyfarfod â darpar gapten Cymru, Gareth Edwards.
Enillodd JPR ei gap cyntaf yn 19 oed yn 1969, wrth ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad ar ei gynnig cyntaf.
Dwy flynedd yn ddiweddarach roedd yn rhan o'r tîm gipiodd y Gamp Lawn - y cyntaf o dair iddo ennill yn ystod y degawd ynghyd â Gareth Edwards a Gerald Davies.
Yn yr un flwyddyn roedd yn aelod allweddol o dîm buddugol y Llewod yn Seland Newydd - yr unig dro hyd heddiw i'r tîm tethiol brofi buddugoliaeth yno.
Fe lwyddodd i efelychu'r campau hynny dair blynedd yn ddiweddarach yn Ne Affrica, ac roedd fel eraill yng nghanol yr 'alwad 99' - y gri ar y cae i frwydro'n ôl a pheidio ildio yn wyneb gormes y Springboks.
Erbyn iddo ymddeol o'r llwyfan rhyngwladol yn 1981 roedd wedi cynrychioli ei wlad ar 55 achlysur - record a fyddai'n sefyll tan ddiwedd y 90au.
Doedd ei gampau ddim wedi eu neilltuo i'r meysydd rygbi chwaith - roedd yn chwaraewr tenis o fri, ac fe ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth ieuenctid Prydain a gafodd ei gynnal yn Wimbledon yn 1966.
Er iddo ddiosg ei sgidiau ar y lefel rhyngwladol yn 1981 i ganolbwyntio ar ei waith dyddiol fel llawfeddyg, bu'n parhau i gynrychioli Pen-y-bont ar adegau tan y 90au, a thrydydd tîm lleol Ton-du yn ystod ei 50au, tan rhoi'r gorau iddi yn llwyr yn 2003.
Roedd ei bendantrwydd, a'i awydd i lwyddo ar bob cyfrif yn rhai o'i rinweddau pennaf a ddaeth i gwmpasu ei ysbryd ar ac oddi ar y cae.
'Cymeriad anhygoel'
Dywedodd cyn-gapten Cymru, Jonathan Davies mai JPR Williams oedd "falle'r dyn mwyaf cystadleuol i fi ddod ar ei draws erioed".
"Roedd e'n eithriadol o gystadleuol - yn chwaraewr rygbi gwych ac yn gymeriad anhygoel," meddai ar BBC Radio 5 Live.
"Pan chi'n sôn am y cefnwyr gorau mewn unrhyw oes, mae JPR wastad yn y mix."
Ychwanegodd un arall o gyn-gapteiniaid Cymru, Gareth Davies, bod JPR Williams wedi "newid y gêm", a thrwy hynny wedi rhoi cyfle i'w gyd-chwaraewyr serennu.
"Lan at y cyfnod yna... roedd rhif 15 y cefnwr, mewn ffordd, na gyd oedd y cefnwr yn neud yn fwy aml na dim o'dd cicio y goliau, dal y bêl yn y 22 ei hunain a cicio'r bel 'nôl. Ond na'th JPR newid holl agwedd y chwarae hynny.
"Ac rwy'n credu mewn ffordd bod hynna wedi bod yn allweddol iawn yn galluogi pobl fel Gerald Davies a Barry John a Gareth [Edwards] ac yn y blaen, i serennu achos bod y gêm ddim yn mynd o un linell i'r llall, o'dd y gêm yn cadw yn fwy drwy'r amser achos y gwrthymosod bod JPR wedi cyflwyno i'r gêm."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd JPR ei ddisgrifio fel "arwr, cawr ac eicon" o'r gêm gan Gethin Watts, Pennaeth Recriwtio y Bristol Bears a fu'n hyfforddi ym Mhen-y-Bont am gyfnod.
"Mae'n golled mawr i'r gamp ac i Gymru," meddai ar Dros Frecwast.
"Cyfnod byr ges i ym Mhen-y-bont ond oedd y chwedlau a'r storiau gan sawl un oedd yn ei adnabod yn dda iawn... roedd 'na storiau di-ri am ei gampau ar y cae ond off y cae hefyd.
"Ond nath e drawsnewid y ffordd oedd y rôl yn cael ei chwarae, dala'r bêl ond wedyn dechrau gwrthymosod a rhedeg nôl at y gwrthwynebwyr."
Ychwanegodd Syr Gareth Edwards ar Dros Frecwast: "Fe newidiodd e'r gêm fel cefnwr, y peth cyntaf oedd JPR eisiau ei wneud oedd rhedeg.
"O'dd e'n broblem i ni yn y misoedd cyntaf gan nad oedden ni'n gwybod beth o'dd e ishe'i neud!
"Ond o'dd e'n gefnwr anhygoel, yn creu problemau i'r timau oeddem yn chwarae'n erbyn."
Yn ôl y sylwebydd ac awdur Alun Wyn Bevan, "petai chi yn dewis tîm y byd i chwarae yn erbyn planed arall yna JPR Williams fyddai y cefnwr".
"Y boi oedd yn gwbl ddiofn o dan y bêl uchel yna ac yn ei hawlio bob tro."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn rhoi teyrnged iddo ar ran Undeb Rygbi Cymru dywedodd y llywydd Terry Cobner, a chwaraeodd gyda JPR Williams yn y 70au, y bydd yn cael ei gofio fel "un o'n chwaraewyr gorau erioed".
"Er ei fod yn chwarae yn ystod y cyfnod amatur, roedd yn gwbl broffesiynol ei agwedd, a bob amser yn gyrru safonau tra'n hyfforddi ac ar y cae," meddai.
"Gyda JPR wrth eich ochr chi, roedd 'na wastad siawns o ennill unrhyw beth.
"Bydd rygbi Cymru yn ei gofio fel un o'n chwaraewyr gorau erioed - mae'r 55 cap, tair Camp Lawn a chwe Choron Driphlyg yn profi hynny.
"Chwaraeodd hefyd ym mhob un o'r wyth gêm brawf yn Seland Newydd a De Affrica - dwy o deithiau gorau'r Llewod yn 1971 a 1974.
"Mae hon yn golled ofnadwy i'n gêm, ond yn amlwg yn golled waeth byth i'w wraig, Scilla, a'u pedwar o blant."
Ychwanegodd y Llewod fod JPR Williams yn "un o'r chwaraewyr gorau erioed" i wisgo'u crys, gan ei ddisgrifio fel "dyn sydd wedi ysbrydoli cymaint".
Yn siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'n addas ein bod ni heddiw yn cofio JPR Williams ar y cae rygbi ond hefyd y cyfraniad aeth ymlaen i wneud i'r GIG yng Nghymru am gymaint o flynyddoedd."
Mae llywydd y Senedd, Elin Jones, hefyd wedi talu teyrnged: "Nid oes angen cyfenwau ar rai pobl, maent yn dod yn chwedl yn eu hoes - diolch JPR am yr atgofion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018