Rubin Colwill: 'Neis bod fi wedi stopio tyfu'

Mae chwaraewr canol cae Cymru a Chaerdydd Rubin Colwill yn mwynhau ei bêl-droed ar y funud ar ôl datgelu ei fod wedi "stopio tyfu".

Mae'r chwaraewr canol cae 21 oed yn cael tymor da gyda'r Adar Gleision ac wedi chwarae mewn 23 gêm a sgorio tair gôl.

Er ei fod wedi bod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022, mae Colwill wedi cael gyrfa rwystredig oherwydd anafiadau, ond mae'n gobeithio fod hynny tu ôl iddo bellach.