Euro 2020: Y 26 a fydd yn cynrychioli Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rubin Colwill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colwill wedi bod yn rhan o wersyll hyfforddi Cymru cyn y cyhoeddiad nos Sul am y garfan terfynol

Rubin Colwill, canolwr ifanc o glwb Caerdydd, yw'r dewis mwyaf annisgwyl yng ngharfan 26 dyn Cymru ar gyfer Ewro 2020.

Mae'r chwaraewr canol cae, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd ym mis Chwefror, wedi bod yn rhan o garfan hyfforddi Cymru sy'n paratoi ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae'r chwaraewr 19 oed wedi'i ddewis o flaen ei gyd-flaenwyr Tom Lawrence, Rabbi Matondo a Brennan Johnson.

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch Euro 2020 yn erbyn y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin, a byddan nhw hefyd yn wynebu Twrci a'r Eidal yng ngrŵp A.

Bydd Robert Page yn gyfrifol am arwain Cymru drwy'r bencampwriaeth yn absenoldeb Ryan Giggs.

Ymhlith yr enwau disgwyliedig mae'r Capten Gareth Bale, chwaraewr canol cae Juventus Aaron Ramsey ac amddiffynnwr Tottenham Ben Davies, yn ogystal a chwaraewr canol cae Stoke City, Joe Allen, a enwyd yn nhîm Ewro 2016 y gystadleuaeth ar ôl i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol.

Mae un o hoelion wyth eraill yr ymgyrch honno, y golwr Wayne Hennessey, hefyd yn y garfan, ynghyd a Chris Gunter, sydd wedi ennill 100 o gapiau dros ei wlad.

Fe fethodd Ben Davies ddiwedd tymor yr Uwch Gynghrair ar ôl dioddef anaf i'w goes ym mis Mawrth, tra bod yr amryddawn Ethan Ampadu hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan er iddo fethu diwedd ei gyfnod benthyciad yn Sheffield United oherwydd problem gyda'r belfis.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Enw Colwill yw'r un mwyaf annisgwyl yng ngharfan Rob Page.

Fe ymunodd y bachgen o Gastell Nedd a Chaerdydd yn wyth oed, cyn ymuno a charfan dan-23 yr Adar Gleision ym mis Gorffennaf 2020.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Adar Gleision yn y fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth 3-1 dros Coventry ym mis Chwefror.

Cafodd ei alw i garfan dan-21 Cymru y mis canlynol a daeth ymlaen fel eilydd i ennill ei gap cyntaf mewn gem gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Roedd Colwill wedi bod yn rhan o wersyll hyfforddi 28 dyn ym Mhortiwgal, cyn y cyhoeddiad nos Sul am y garfan terfynol.

Roedd amddiffynnwr Luton Town, Tom Lockyer hefyd yn rhan o'r garfan hyfforddi ond, ar ôl methu diwedd y tymor ar ôl cael llawdriniaeth ar ei bigwrn ym mis Ebrill, nid yw wedi cael ei gynnwys yn y garfan derfynol gyda chwaraewr canol cae Sir Casnewydd Josh Sheehan hefyd yn colli allan.

Carfan Cymru ar y gyfer Euro 2020

Gol-geidwaid: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Joe Rodon, James Lawrence, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango.

Canolwyr: Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Harry Wilson, Daniel James, David Brooks, Joe Morrell, Matt Smith, Dylan Levitt, Rubin Colwill.

Ymosodwyr: Gareth Bale, Kieffer Moore, Tyler Roberts.

Pynciau cysylltiedig