Y brecwastau sy'n help i leihau gofidiau amaethwyr

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal brecwastau ffermdy ar draws y wlad yr wythnos hon gyda'r bwriad o annog pobl i siarad, rhannu meddyliau a helpu i wella iechyd meddwl.

Mae'n gyfle unigryw i drafod datblygiadau yn y diwydiant tra ar yr un pryd codi arian i un o elusennau Undeb Amaethwyr Cymru.

Dywedodd cyn-ddirprwy lywydd yr undeb ddydd Mawrth fod ysbryd y diwydiant amaeth yn is nag ar unrhyw gyfnod yn ei fywyd.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod brecwast yng Nghanolfan Hermon, yn Sir Benfro.

Roedd 90 o bobl wedi cofrestru i fod yno, ac roedd yn amlwg eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddod at ei gilydd.