Ysbryd y diwydiant amaeth yn 'is nag erioed' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ddirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi dweud fod ysbryd y diwydiant amaeth yn is nag ar unrhyw gyfnod yn ei fywyd.
Wrth ymweld ag un o ddigwyddiadau'r Undeb i ddathlu eu hwythnos Brecwast, dywedodd Brian Thomas hefyd fod gan Lywodraeth Cymru ddiffyg ymwybyddiaeth o'r diwydiant amaeth.
"Yn anffodus, dwi ddim yn credu bod y Senedd yng Nghaerdydd yn deall amaethyddiaeth a phwysigrwydd amaethyddiaeth o fewn economi cefn gwlad," meddai.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu "hymrwymiad i'r sector ar yr adeg heriol hon yn glir iawn".
Dywedodd Brian Thomas: "Mae problem TB gyda ni ac mae hwn yn chwarae ar feddwl pobl am y rheswm, fel unigolion, ni ffili gwneud dim ambyti 'ny.
"Mae'r Senedd yng Nghaerdydd mor boliticaidd am y peth a dwi'n siŵr mai hwnnw yw'r broblem fwyaf cyn belled ag y mae iechyd meddwl yn y ddadl."
Aeth ymlaen i sôn bod y pwysau ariannol hefyd yn gwasgu ar y diwydiant.
Dywedodd: "Yn ariannol, mae'r NVZ [Parthau Perygl Nitradau] gyda ni hefyd sy'n rhoi pwysau ychwanegol arall, a hefyd yr ansicrwydd o ddim gwybod yn iawn sut mae'r diwydiant yn mynd i gael ei ariannu yn y dyfodol."
Cynnal brecwastau i rannu meddyliau
Yr wythnos hon, mae UAC yn cynnal brecwastau ffermdy ar draws y wlad gyda'r bwriad o annog pobl i siarad, rhannu meddyliau a helpu i wella iechyd meddwl.
Gyda 90 yn cofrestru i gael brecwast yng Nghanolfan Hermon, Sir Benfro fore Mawrth, dywedodd Brian Thomas ei fod wedi clywed sawl un yn trafod eu pryderon.
"O'n i jyst yn siarad â ffermwr fan hyn nawr o'dd yn poeni am blannu 10% o'i dir yn goedwig," meddai.
"O'dd e'n dweud do'dd dim llawer o dir isel gyda fe a dy'n nhw ddim yn fodlon plannu'r ucheldir. Ro'dd e'n poeni am ei ddyfodol."
Un a oedd yn falch o'r cyfle i siarad a chymdeithasu oedd John Rowe Lewis sy'n ffermio'n Nhydraeth.
"Os y'ch chi'n gweld rhyw broblem, chi'n gallu siarad a rhannu'r broblem yna gyda rhywun arall," meddai, wrth fwynhau ei frecwast.
"Mae mor neis bod pethau fel hyn wedi dod i bobl gael cymdeithasu a'r un peth pan chi'n mynd i rywle fel y mart, chi'n gwybod, mae hwnna'n le pwysig iawn hefyd."
Ategodd Aeres James, drwy ddweud: "Chi'n meddwl bod gofidiau gyda chi gartref, chi'n siarad â rhywun a falle bod eich gofidiau chi'n llai.
"Mae rhannu gofid yn beth da dwi'n meddwl ac mae'n neis i gymdeithasu mewn rhywbeth fel hyn."
Ynghyd ag annog sgwrs, bwriad Wythnos Brecwast UAC hefyd yw codi arian at elusen a hyrwyddo cynnyrch lleol sy'n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr bob dydd.
Roedd aelodau o Gylch Meithrin Hermon hefyd yn y digwyddiad i ddysgu am y gadwyn fwyd.
Yn ôl Arweinydd y Cylch Meithrin, Bethan James, roedd hi'n bwysig i'r plant ddeall y broses o gynhyrchu bwyd, o'r giat i'r plat.
"Ma' hwn 'di bod yn gyfle gwych iddyn nhw ddysgu," meddai.
"Ma' nhw 'di joio, a maen nhw'n holi lot o ble mae bwyd yn dod yr wythnos 'ma."
'Gwbl benderfynol o ddileu TB'
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi gwrando ar ffermwyr a chynrychiolwyr drwy "ddiogelu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar £238m ar gyfer 2024, sef yr un lefel â 2023".
"O ystyried y pwysau sylweddol rydym yn ei wynebu, nid oedd hyn yn hawdd ond roeddem yn cydnabod y pwysigrwydd o ddarparu sefydlogrwydd yn ystod cyfnod mor ansicr."
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud eu bod yn "canolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael i baratoi ffermwyr a'r gadwyn gyflenwi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef ein dull hirdymor i gefnogi gwytnwch ein diwydiant amaethyddol yng Nghymru".
Maen nhw'n annog ffermwyr i ymateb i'r ymgynghoriad sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
O ran y dicïau, mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod yn ymwybodol iawn o'r pryderon a'u bod yn "gwbl benderfynol o ddileu TB gwartheg yng Nghymru".
Mae nhw'n annog ffermwyr i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau statws heb TB i Gymru.
"Ni all Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024