Rees-Zammit: Y Cymro arall wnaeth y naid i bêl-droed Americanaidd
Wedi'r cyhoeddiad ddydd Mawrth fod asgellwr Cymru, Louis Rees-Zammit yn gadael rygbi er mwyn dilyn gyrfa mewn pêl-droed Americanaidd, mae Cymro arall sydd wedi gwneud newid tebyg yn falch o'i weld yn mynd ar drywydd arall.
Mae Evan Williams, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont, hefyd wedi mynd o rygbi i ganolbwyntio ar bêl-droed Americanaidd.
Roedd Evan wedi cael ysgoloriaeth i chwarae rygbi yn yr Unol Daleithiau, ac wedi pedair blynedd yn chwarae ym Mhrifysgol Lindenwood - cafodd gyfle annisgwyl i newid camp.
Ar ôl rhannu fideos ar y cyfryngau cymdeithasol ohono yn cicio am y pyst, fe ddenodd sylw hyfforddwyr pêl-droed Americanaidd ac fe arweiniodd hynny at ennill ysgoloriaeth arall gyda Missouri Western.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru ei bod hi'n wych gweld Rees-Zammit yn gwneud symudiad tebyg gan ei fod yn cyd-fynd a'i freuddwyd ei hun.
"Bydd rhaid iddo ddysgu llawer o bethau gwahanol o gymharu â'i safle fel asgellwr, ond os ydi o'n gweithio'n galed dwi'n siŵr y bydd o'n iawn."
Mae modd darllen mwy am gyhoeddiad Rees-Zammit yma.