Louis Rees-Zammit i adael rygbi er mwyn symud i'r NFL
- Cyhoeddwyd

Roedd Rees-Zammit yn un o sêr amlycaf Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd y llynedd
Mae Clwb Rygbi Caerloyw wedi cyhoeddi eu bod wedi dod â chytundeb Louis Rees-Zammit i ben ar unwaith er mwyn galluogi'r Cymro i roi cynnig ar chwarae Pêl-droed Americanaidd.
Mae'r asgellwr ifanc wedi cael ei dderbyn i'r NFL International Player Pathway (IPP) - sy'n rhoi cyfle i athletwyr elit sicrhau cytundeb gydag un o brif glybiau'r Unol Daleithiau.
Daw'r cyhoeddiad wrth i Warren Gatland gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dywedodd Rees-Zammit ei fod yn credu mai dyma'r "amser iawn iddo geisio cyflawni nod proffesiynol arall" gan ychwanegu "nad yw'r cyfleoedd hyn yn codi yn aml iawn".

Mae'r asgellwr wedi bod yn chwarae i Gaerloyw ers dechrau ei yrfa proffesiynol
Mae Rees-Zammit, sy'n 22 oed, wedi chwarae 32 o weithiau i Gymru, a dywedodd bod y penderfyniad i ddod â'i yrfa ryngwladol i ben am y tro yn un "poenus".
Er hynny mynnodd nad yw'r newid trywydd yma yn golygu, o reidrwydd, ei fod yn ymddeol o rygbi yn gyfan gwbl.
Ei nod, meddai, yw ceisio cael ei arwyddo gan un o glybiau'r NFL ar gyfer tymor 2024.
Mewn datganiad, dywedodd Rees-Zammit: "Dwi'n edrych ymlaen at yr her unigryw yma, sy'n rhoi cyfle i mi gryfhau a dysgu sgiliau newydd.
"Dwi'n hynod ddiolchgar i Gaerloyw - clwb sy'n ofnadwy o agos at fy nghalon - ac i George Skivington ac Alex Brown yn benodol am alluogi i mi fynd ar drywydd arall.
"Dwi'n dymuno'r gorau i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a thu hwnt, a byddaf yn parhau i ddilyn canlyniadau Caerloyw o bell hefyd."

Fe fydd Rees-Zammit yn ceisio sicrhau lle gydag un o brif glybiau'r NFL


Pan ry' chi'n meddwl chi 'di gweld pob dim o ran rygbi Cymru, mae 'na wastad rhywbeth rownd y gornel i synnu pawb.
Heb os mi oedd y newyddion ynglŷn â Louis Rees-Zammit yn gwbl ysgytwol.
Mae'n ergyd i Gymru eu bod nhw nawr yn mynd i golli gwasanaeth un o'u sêr mwyaf ar adeg pan mae chwaraewyr eisoes wedi ymddeol, ac anafiadau wedi llethu'r paratoadau ar gyfer y Chwe Gwlad.
Doedd dim disgwyl i Rees-Zammit aros yn yr unfan - fe fyddai wedi codi pac a gadael Caerloyw ar ddiwedd y tymor gyda Japan neu Ffrainc yn lleoliadau posib, ond fe ddaeth y cynnig unigryw hwn yn annisgwyl ac yn amhosib ei wrthod.

Yn ôl Shane Williams, cyn-chwaraewr Cymru: "Mae'n golled enfawr i rygbi Cymru, rwy'n siŵr bod Caerloyw yn siomedig iawn, ond mae'n rhaid i Louis wneud yr hyn sy'n rhaid iddo ei wneud.
"Mi glywais i sibrydion am hyn tua chwe mis yn ôl ond doeddwn i ddim wir yn meddwl y byddai'n digwydd mewn gwirionedd."
"Rydyn ni'n siarad am athletwr rygbi anhygoel, mae'n gyflym mewn llinell syth, mae ganddo draed da, mae'n debyg y byddai'n gwneud receiver da iawn, mae'n sioc fawr ond hoffwn i feddwl ei fod yn gwybod beth mae'n ei wneud," ychwanegodd.
"Mae'n athletwr perffaith, yn dal ac yn olygus, mae ganddo'r carisma a'r rhinweddau corfforol hefyd, ac mae'n ifanc, mae'n 23 y mis nesaf, felly bydd yn rhoi popeth."

Mae Christian Wade bellach yn chwarae dros Racing 92 yn dilyn cyfnod yn yr UDA
Mae'r newid gan Rees-Zammit yn debyg i un wnaeth cyn-asgellwr Wasps a Lloegr, Christian Wade, wnaeth adael Wasps yn 2018 i geisio dilyn gyrfa yn yr NFL.
Treuliodd rai blynyddoedd yn yr UDA cyn dychwelyd i chwarae rygbi yn Ffrainc.
Ychwanegodd Shane Williams ei fod yn credu bod gan Rees-Zammit yr amser i fentro a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
"Mae siawns dda iddo fod yn llwyddiannus wrth gwrs, ond mae siawns dda nad yw e. Rwy'n credu ei fod mor ifanc a digon da y gallai gymryd cyfnod sabothol, 12 mis, o fynd ar drywydd hyn, a phe bai'n dod yn ôl ymhen 12 mis, rwy'n siŵr y byddai cannoedd o glybiau a fyddai'n ysu i'w gael yn ôl yn eu tîm.
"Does dim syndod a dyw e ddim yn gyfrinach nad oes gennym ni'r cyllid yma yng Nghymru beth bynnag, a'n bod ni eisoes wedi gweld llwyth o chwaraewyr yn gadael i chwarae yn Lloegr, Ffrainc neu Japan, rydyn ni bob amser yn mynd i gael hynny yn ein herbyn nes bod rhywbeth yn newid yn anffodus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023