'Ffyddiog' bydd Cymry yng ngharfan merched y Llewod

Mae cyn faswr Cymru Elinor Snowsill yn ffyddiog y bydd yna gynrychiolaeth o Gymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon ar daith merched y Llewod i Seland Newydd yn 2027.

Mae'r Llewod wedi cyhoeddi y bydd tîm merched yn mynd ar daith am y tro cyntaf.

Ond mae yna bryderon y bydd y garfan yn cynnwys chwaraewyr o Loegr yn unig gan fod y Saeson wedi perfformio gymaint yn well na'u gwrthwynebwyr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl Snowsill, a enillodd 76 o gapiau i Gymru, mae'r Cymry, yr Albanwyr a'r Gwyddelod yn cau'r bwlch ac yn frith o dalent.