Y Llewod yn cyhoeddi taith merched am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Shaunagh Brown, Megan Gaffney, Elinor Snowsill a Niamh BriggsFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Roedd capten Cymru, Elinor Snowsill (ail o'r dde), yn rhan o'r digwyddiad lansio

Mae'r Llewod wedi cyhoeddi y bydd tîm merched yn mynd ar daith am y tro cyntaf - a hynny i Seland Newydd yn 2027.

Bydd y gyfres yn cael ei chynnal ym mis Medi a bydd yn cynnwys tair gêm brawf yn erbyn y Black Ferns.

Yn ogystal â herio pencampwyr y byd, bydd y Llewod hefyd yn wynebu gwrthwynebwyr eraill sydd heb gael eu cadarnhau eto.

Dywedodd cyn-asgellwr Cymru a Phrif Weithredwr y Llewod, Ieuan Evans bod hyn yn "gam allweddol wrth ddatblygu rygbi merched a chwaraeon merched yn fwy cyffredinol".

Mae tîm dynion y Llewod - sy'n dod â chwaraewyr o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ynghyd - wedi bod yn mynd ar deithiau ers 1888.